Mae Dydd Miwsig Cymru’n “gwneud job dda o roi golau byd-eang ar gerddoriaeth Gymraeg”, yn ôl y canwr Yws Gwynedd, sy’n rhedeg y label Recordiau Côsh ac sy’n dweud mai “beth sy’n iach rŵan ydi bod yna gymaint o wahaniaeth yn y genres o fewn cerddoriaeth Gymraeg”.
Yn ogystal â chreu ei restrau chwarae ei hun o gerddoriaeth gyfoes – “dyna ydi’r gair pwysig”, meddai wrth golwg360 – mae e’n rhoi rhestrau chwarae o fideos o ganeuon Cymraeg cyfoes at ei gilydd ar wefan YouTube, gan ddweud bod “gweld fideo hefyd yn brofiad gwahanol i wrando ar gân, ac felly mae o’n gallu rhoi cyswllt gwahanol i blant”.
Daeth y syniad o greu rhestrau chwarae ar ffurf fideos, meddai, ar ôl bod yn siarad â’r gyflwynwraig Mari Lovgreen.
“Ddaru Mari Lovgreen ofyn i fi os oedd yna ffasiwn beth â rhestr o fideos cyfoes – a dyna ydi’r gair pwysig – yn bodoli achos oedd hi wedi bod yn athro llanw a sylweddoli bod lot o’r plant yn cael eu bwydo efo caneuon hŷn, clasuron Cymraeg sydd yn hollol fine, ond bo nhw ddim yn adlewyrchu y stwff cŵl oedd hi’n ymwybodol oedd yn digwydd yn y sîn ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae pawb yn cytuno bod o’n oes aur, ond roedd hi’n teimlo bod o’n bwysig i’r plant fwy neu lai edrych i fyny at rywun sy’n bodoli rŵan, a deud ‘Ie, mae hwnna’n cŵl, mae o fatha’r stwff dwi’n clywed yn y siartiau’.
“Doedd dim rhestr yn bodoli, felly neshi roi un at ei gilydd yn arbennig iddi hi, a ddaru hi ddeud bod hi wedi’i ddangos o i’w phlant hi, ac roeddan nhw jyst wrth eu boddau’n gwylio stwff Cymraeg.
“Dydi o ddim ots rili gan blant pa iaith ydi o. Os maen nhw’n ddigon ifanc, mae o’n fwy bo nhw’n cael eu difyrru’n ddigonol, ac mae fideos yn helpu hynna i ddigwydd, I suppose.
“Efallai ti’n lwcus os gei di un bob pythefnos yng Nghymru fel arfer, fideo i gân gyfoes yn dod allan, ond ro’n i wedi bod yn cadw llygad ar y rheiny beth bynnag. Pan ddaru Mari ofyn am un cyfoes, es i ati i weld beth oedd y tracs da oedd wedi cael fideos wedi’u gwneud iddyn nhw.
“Ers talwm, roedd o’n od, oeddach chdi’n cael tracs poblogaidd heb fideo, a tracs mwy cŵl, efallai mwy critically acclaimed, efo fideo. So roedd fideos wastad yn adlewyrchu yr ochr yna o’r sîn yn hytrach na’r ochr boblogaidd, os lici di.
“Wedyn mae hwnna wedi cael ei droi ar ei ben dipyn bach. Mae yna fwy o stwff, hits os lici di, yn cael fideos dyddiau yma, mae o’n haws i’w wneud so elli di weld beth fysa’n addas i blant ysgol, a jyst trio cael croesdoriad o bawb sy’n canu – dynion, merched, gwahanol hil, bob dim.
“Mae yna ddywediad, does, if you can see it you can be it maen nhw’n ddeud. A wedyn mae’n bwysig bod pawb sy’n canu’n cael eu hadlewyrchu mewn rhestrau fel’na.”
Spotify ac Apple
Roedd Yws Gwynedd eisoes yn creu rhestrau chwarae ar lwyfannau Apple a Spotify, ac fe fu’n galw’n benodol ar Spotify ddechrau’r wythnos hon, ar drothwy Dydd Miwsig Cymru, i wneud mwy i hybu cerddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg.
Ond wrth siarad â golwg360, fe fu’n egluro pa mor hawdd yw hi i unigolion greu eu rhestrau chwarae eu hunain.
“Be ydan ni’n meddwl weithiau yng Nghymru ydi bod yna rywun wastad yn ei wneud o oherwydd bod gennon ni Fentrau Iaith a phethau fel’na,” meddai.
“Mae gennon ni ryw deimlad fatha ‘O ie, mae’n siŵr bod yna rywun sy’n compilio pethau sydd yn gwneud pethau, yn hybu cerddoriaeth Gymraeg neu beth bynnag’, ac anghofio wedyn bod o mor hawdd bangio rhestr at ei gilydd a rhannu fo ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Ti ddim yn gorfod talu pres i wneud o na dim byd fel’na. Dwi’n gwybod bod y pres rydan ni’n gael nôl fel artistiaid ddim yn lot o Spotify a YouTube a pethau fel’na ond maen nhw’n bethau hawdd i’w rhannu ac i wneud siŵr bod gymaint o bobol ag sy’n bosib yn gallu clywed dy gerddoriaeth di.
“Dyna ydi’r nod yn y diwedd, bo ni’n gwneud digon o argraff ar bobol fel bo nhw’n gorfod talu sylw i ni i ddweud bo nhw’n gweld bod yna stwff da yn digwydd a bod eu clustiau nhw’n codi.”
‘Y genre efo sub-genres’
A yw Yws Gwynedd yn cytuno, felly, bod cerddoriaeth Gymraeg yn genre ynddi’i hun?
“Mi fydd o’n genre wastad, ond yn genre efo sub-genres,” meddai.
“Ers talwm pan o’n i efo Frizbee, oeddach chdi’n sylwi pan oedd pobol yn prynu CD Genod Droog, roeddan nhw hefyd yn prynu CDs Frizbee ac Elin Fflur, so dyna chdi dri genre hollol wahanol o gerddoriaeth!
“Mae gennon ni wastad y ffan cerddoriaeth Gymraeg, so mae o’n genre mewn un ffordd, ond beth sy’n iach rŵan ydi bod yna gymaint o wahaniaeth yn y genres o fewn cerddoriaeth Gymraeg. Mae gen ti Skylrk [band o Ddyffryn Nantlle] yn gwneud stwff grill hyd yn oed, so mae gen ti bob math o stwff os wyt ti eisiau.
“Fyswn i’n deud mai’r prif genres o fewn yr iaith Gymraeg sy’n dal ar y top fysa indie-rock ac indie-pop ond mae yna gymaint.”
Ond mae yna un genre newydd sydd wedi dod yn boblogaidd yn y Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae pop mwy electronig wedi dod i’r fei ers y lockdown, ac mae hynna wedi bod yn beth positif,” meddai.
“Dwi’n meddwl bod yna lot o bobol wedi mynd ati i ddysgu sut i greu cerddoriaeth pop eu hunain, electronig fel dwi’n deud, neu’r ochr ddawns.
“Dwi’n meddwl bod hynna’n wych achos mae’n siŵr ’na hwnna ydi’r genre mwya’ poblogaidd yn y byd ar y funud.
“Mae’n neis clywed stwff Cymraeg fel’na.
“Mae Endaf wedi bod yn gwneud gwaith gwych, sydd hefyd yn rhywbeth fysa ti’n cael yn critically acclaimed ac mae o’n gwneud gwaith gwych.”
Fel cynhyrchydd, mae dyfodiad cynifer o fandiau ac artistiaid newydd i’r sîn yn ei gadw’n brysur, meddai.
“Ers i bethau ddechrau gwella, mae yna lot o artistiaid wedi penderfynu rhyddhau rŵan.
“Wedyn, ydi, mae o’n gyfnod prysur ond yn gyfnod iach hefyd achos mae yna lot o bobol wedi penderfynu rhyddhau cerddoriaeth dros y ddwy flynedd ddiwetha’ fysa wedi gadael o am ychydig o flynyddoedd oni bai bod y pandemig wedi dod.
“So os mae yna unrhyw beth positif i’w gymryd allan o’r pandemig, dwi’n meddwl bod cerddoriaeth Gymraeg yn mynd i fod yn iach am y cwpwl o flynyddoedd nesa’ beth bynnag.”
Efelychu’r Urdd?
Ar ôl gweld llwyddiant yr Urdd ar ddiwrnod eu canmlwyddiant yn lledaenu’r gair a’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ yn ddiweddar, a oes gobaith i Ddydd Miwsig Cymru gael yr un sylw ar draws y byd, tybed?
“Roedd o’n emosiynol gweld peth yr Urdd achos bob tro, mae o fatha recharge-io’r batris pan wyt ti’n mynd i Steddfod yr Urdd neu’r Steddfod Genedlaethol,” meddai.
“Recharge-io dy fatris Cymraeg a cofio bod yna domen o bobol o bob gwahanol fath o gefndir yn ymddiddori yn y bywyd Cymraeg.
“Felly mae o’n sicr yn rywbeth da, Dydd Miwsig Cymru, ac yn rhywbeth mae eisiau cadw fo i fynd.
“Ac mae o’n rhoi golau ar gerddoriaeth Gymraeg.
“Gawn ni weld pa fath o bethau fydd yn digwydd flwyddyn yma!”