Mae Prosiect Forté, rhaglen ddatblygu Cymru gyfan ar gyfer artistiaid newydd, wedi creu cân ar gyfer Dydd Miwsig Cymru hefo pum artist benywaidd.

Doedd pedair ohonyn nhw heb greu cerddoriaeth yn yr iaith o’r blaen.

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng y cynhyrchydd Estoniaidd Sorry Stacy, y gantores bop Kitty o Ffrainc, yr artist niwl-bop Asiaidd Artshawty, ac Elin Grace, sy’n gantores-gyfansoddwraig ddi-Gymraeg o Landrindod.

Mae’r gân ‘Mamiaith’, wedi’i hysgrifennu gan bumed merch y prosiect, Mali Hâf sy’n 24 oed sy’n dod o Gaerdydd.

Daeth hi a’r pum artist at ei gilydd mewn ychydig o dan bythefnos i ysgrifennu, cynhyrchu a lansio fideo cerddoriaeth.

Mae’r cyfan yn cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Chwefror 4) ar Ddydd Miwsig Cymru.

‘Dod â diwylliannau gwahanol at ei gilydd’

Pam dewis yr enw ‘Mamiaith’ i’r gân, felly?

“Ddaru ni benderfynu ar y thema mamiaith gan fod y merched eraill i gyd yn siarad iaith wahanol eu hunain,” meddai Mali Hâf wrth golwg360.

“Ac yn amlwg efo’r term ‘mam’, mae pob un ohonom ni’n ferched, sy’n rili neis.

“Mae’r gân amdan dod â’r diwylliannau gwahanol yma at ei gilydd a dweud bod unrhyw un yn gallu bod yn Gymraeg, mae unrhyw un yn gallu siarad Cymraeg.

“Fe gafon ni lot o hwyl a dw i’n meddwl ei fod o’n wahanol i lot o ganeuon sydd i’w glywed yn y Gymraeg ar y funud.

“Mae yno lot o ddiwylliannau gwahanol allan yna and I’m all about merging them.

“Fel dywedodd Bendigeidfran, ‘A fo ben, bid bont’!”

Cyfansoddi’r gân

Sut aeth Mali ati ysgrifennu’r gân, felly?

“So, ro’n i eisiau gwneud yn siŵr bod o’n ddigon hawdd i’r merched eraill allu canu, achos roedd o ychydig yn gymhleth ar y dechrau,” meddai.

“Ro’n i’n gwybod yn syth fy mod i’n mynd i ddefnyddio ‘Hen wlad fy mamau’ achos ro’n i’n rili chuffed efo hwnna.

“Wedyn nes i siarad gyda Stacey sy’n cynhyrchu a jyst trafod syniadau rili.

“Ro’n i eisiau rhywbeth rili pwerus, ac fel girl power rili.

“Dywedais ’mod i’n licio trap beats ac roedd hi’n cytuno felly aeth hwnna i mewn.

“Ac wedyn o’n i’n rili licio’r lein ‘Ble mae’r ffidil, ddim yn y to’ so ro’n i fel ‘Reit, there we go, rho ffidil mewn!’

“Roedd o’n broses rili neis.”

Beth yw cynlluniau Mali ar gyfer Dydd Miwsig Cymru?

“Dw i’n mynd i siarad gyda phlant bach mewn ysgol yng Nghaerffili am gerddoriaeth, felly dw i’n rili edrych ymlaen at hynna,” meddai.