Mae sîn gerddoriaeth electroneg Cymru yn “ffynnu” ar hyn o bryd, gydag artistiaid yn “gwthio’r ffiniau o beth sy’n dderbyniol i’w wneud yn y Gymraeg”.

Dyna farn Gwion ap Iago ar Ddydd Miwsig Cymru, ac yntau’n un hanner o’r deuawd electroneg Roughion, ac sy’n berchen ar y label Afanc.

Yn berfformiwr ac yn hyrwyddwr gigs electroneg, yn ogystal â gweithio gydag artistiaid gwahanol ar ei label, mae ganddo fewnbwn unigryw i’r sîn electroneg yng Nghymru.

“Mae’r sîn electroneg yng Nghymru yn ffynnu ar y funud, mae yno lot o artistiaid yn gwthio’r ffiniau o beth sy’n dderbyniol i’w wneud yn y Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Ond wedyn, ochr arall y geiniog o hynna ydi bod beth sy’n dderbyniol yn y Gymraeg yn beth bynnag ‘dach chi eisiau gwneud achos ein hiaith ni ydi hi.

“Mae yno gymaint o bobol yn defnyddio fo rŵan, mae o’n gallu bod yn hyblyg iawn fel iaith a’r bobol sy’n gwneud hynna ran amlaf yw pobol fel Sachasom, Skylrk sy’n gwneud stwff hip-hoppy, ac wedyn mae gen ti bobol eraill sy’n gwneud dance music a stwff mwy traddodiadol fel Roughion a Ryan M Hughes.

“Mae yno rywbeth wedi digwydd [dros y blynyddoedd diwethaf], ac alla i ddim rhoi fy mys arno fe.

“Ond dw i’n meddwl bod e’n lot mwy accesible nawr i glywed y pethau yma.

“Mae pobl fel Kelly Lee Owens a Gwenno wedi dangos bod pobol o Gymru yn gallu gwneud cerddoriaeth arbennig sydd yn electroneg.

“A dw i’n meddwl bod hynna wedi galluogi artistiaid ifanc i benderfynu, ‘Oce, dw i hefyd eisiau gwneud stwff fel’na, dw i eisiau tour-io’r byd, a dw i hefyd eisiau trio pethau allan’.

“Achos nhw sydd wedi bod yn cael y spotlight mwyaf nawr yn hytrach na bandiau.

“Dw i’n meddwl bod pobol fel Kelly a Gwenno yn gwneud pobol yn fwy agored i gerddoriaeth Cymraeg cyfoes.”

‘Cerddoriaeth wastad yn dod mewn waves’

Mae gan Gymru draddodiad llewyrchus gyda cherddoriaeth ddawns, yn ôl Gwion, ac mae’n gweld y sîn bresennol yn dilyn yr un patrymau â’r degawdau a fu.

“Mae cerddoriaeth wastad yn dod mewn waves, mae o’n dibynnu ar y ffasiwn.

“Beth ti’n sylwi ar hyn o bryd yw bod lot o synnau o’r 90au wedi torri trwyddo fel pop music, a phan mae gen ti pop music cryf, cryf, cryf, mae’r underground hefyd yn gryfach.

“A be’ dw i’n sylwi hefyd yw mai disgo a phethau fel’na yw lot o beth sydd ym Mhrydain ar hyn o bryd, ond yn yr underground ti’n gweld lot o acid House, jungle ac ati yn dod yn ôl trwyddo.

“Ac yn yr un modd, mi alli di ddweud bod pop music Cymru yn fwy o fandiau a mwy indie, ond mae’r underground yn wahanol.

“Roedd yr un peth yn wir yn y 90au pan oedd gen ti artistiaid fel y Super Furry Animals a Catatonia a stwff, ond yn yr underground, roedd gen ti Llwybr Llaethog, Tŷ Gwydr a Diffiniad yn creu house music – ti’n gweld bod o’r un peth.

“Os yw’r pop music yn dda, mae’r underground yn dda.”

‘Cwympo mewn cariad gyda dance music

Beth sy’n apelio i Gwion am y math yma o gerddoriaeth, felly?

“Mae jyst well gyda fi dance music, wnes i gwympo mewn cariad gyda dance music yn y coleg yn Aberystwyth,” meddai.

“Roedd y sîn yn Aberystwyth yn rili dda ar y pryd, felly ro’n i’n mynd i lwyth o’r gigs ac ati.

“Ar ôl symud i Gaerdydd wedyn, a gweld bod club culture go iawn yn fan hyn, fe wnaeth hynna sbarduno fi wedyn i greu cerddoriaeth gyda Steffan (ail hanner Roughion) a gallu chwarae ein cerddoriaeth ni allan yn y clubs.

“Mae’r ffaith bo’ ti’n gallu mynd allan a chwarae dance music Cymraeg mewn clwb, law yn llaw gydag artistiaid enfawr fel Dua Lipa ac ati, yn dangos pa mor dda yw safon caneuon Cymraeg sydd allan yna ar hyn o bryd.

“A dyna sydd yn apelio ata’ i, ydi mae e mewn iaith wahanol i bawb arall, ond mae e’n gweithio mewn unrhyw setting a dyna beth sy’n ddiddorol iawn ar hyn o bryd.”