Mae grantiau Gorwelion yn galluogi bandiau ac artistiaid i “wneud pethau fyddai ddim o fewn gafael fel arall”, meddai Iwan Llyr o’r band Kim Hon.
Mae’r band o Gaernarfon yn un o 49 o artistiaid cerddorol fydd yn rhannu dros £63,000 gan Gronfa Lansio Gorwelion eleni.
Ers ei sefydlu yn 2014, mae’r bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau wedi rhoi £273,000 i gefnogi dros 250 o fandiau ac artistiaid yng Nghymru.
Y cyllid eleni yw’r swm mwyaf ers i’r gronfa gael ei sefydlu.
Mae’r arian ar gyfer y Gronfa Lansio ar gael drwy’r Loteri Genedlaethol, ac yn cael ei ddyrannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae’n bwysicach nag erioed i gysylltu cymuned, i gredu yn yr artistiaid a’u taith ac i roi buddsoddiad yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, a hynny yn yr eco-system gyfan o amgylch yr artistiaid – o’r stiwdios, i gynhyrchwyr, labeli, cwmnïau hyrwyddo a mwy,” meddai Bethan Elfyn, rheolwr prosiect gyda Gorwelion.
Ychwanegodd Lisa Matthews-Jones, rheolwr portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru eu bod “wrth ein bodd o weld nifer a chyfoeth y ceisiadau a ddaeth i law”.
“Mae llawer iawn o dalent cerddorol yng Nghymru ar draws pob genre ac ymhob cornel, ac mae’r Gronfa Lansio yn gyfle hollbwysig i ddyrchafu’r artistiaid hyn.”
‘Cyfle arbennig’
Mae un o’r rhai sydd yn elwa ar y gronfa wedi bod yn siarad â golwg360.
“Rydan ni wrth ei boddau ac yn ddiolchgar iawn i Gorwelion am ddewis ni fel un o’r artistiaid lwcus sydd wedi cael y grant,” meddai Iwan Llyr o’r band Kim Hon wrth golwg360.
“Mi faswn i’n annog unrhyw fand sy’n meddwl am drio am y grant i wneud, achos dw i ddim y gorau am ysgrifennu dogfennau a chyfleu fy hun.
“Ond cyn belled â dy fod di’n onest ac yn glir am yr hyn rwyt ti eisiau a chynllun clir sydd ddim yn hurt, dw i’n siŵr ei bod hi werth i unrhyw un drio amdano fo.
“Mae o’n gyfle arbennig i wneud pethau fyddai ddim o fewn gafael fel arall.”
Recordio albym
Beth mae’r grant yn mynd i alluogi Kim Hon i’w gyflawni felly?
“Y prif beth mae o’n mynd i helpu ni wneud ydi mynd mewn i’r stiwdio a recordio albym,” meddai Iwan Llyr wedyn.
“Hyd yma, rydan ni wedi bod yn gwneud un trac ar y tro o adref, math o beth.
“Ond trwy gael y grant yma mae o’n galluogi ni gael mewn i stiwdio a bod yno am sbel digon hir i ni allu gwneud cynnydd ar yr albym.
“A rŵan bod pethau’n dechrau agor fyny ac ati, mi allith hwn fod yn springboard da i gael yr albym, neu o leiaf senglau cynnar yr albym allan erbyn mae gigs yn dechrau – heb gyfyngiadau gobeithio!”