Mae Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru “am roi’r celfyddydau wrth wraidd ein bywyd a’n lles”.
Dyna’i neges wrth iddi gael ei phenodi i’r swydd, gan olynu Siân Tomos oedd wedi camu o’r neilltu fis Medi y llynedd.
Ar hyn o bryd, Lleucu Siencyn yw Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol i ddatblygu llenyddiaeth, ond bydd hi’n camu i’w swydd newydd ym mis Mai.
Cafodd ei magu yn Nhalgarreg yng Ngheredigion, a’i haddysgu yn Ysgol Dyffryn Teifi ac yna yng Ngholeg Newydd, Rhydychen lle enillodd radd mewn Saesneg, a threuliodd gyfnodau byr yn Ne America.
Bu’n gweithio i gwmnïau teledu annibynnol, ac yn Swyddog Llenyddiaeth gyda Chyngor y Celfyddydau.
Aeth wedyn yn Ddirprwy Brif Weithredwr Academi, cyn mynd yn Brif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, sy’n cael eu hariannu gan Gyngor y Celfyddydau i ddatblygu llenyddiaeth.
‘Celfyddydau er budd pawb’
“Cred y Cyngor fod y celfyddydau er budd pawb a dwi’n cytuno gant y cant,” meddai Lleucu Siencyn.
“Mae ei waith a’i egwyddorion yn bwysig, yn enwedig ym maes y celfyddydau ac iechyd, argyfwng yr hinsawdd, ehangu ymgysylltiad, datblygu strategaeth Gymraeg newydd a’i ffocws rhyngwladol.
“Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r egwyddorion ar gyfer pobol a chymunedau Cymru a chynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei genhadaeth o roi’r celfyddydau wrth wraidd ein bywyd a’n lles.”
Mae Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi ei chroesawu i’r swydd.
“Rydym yn falch o benodi Lleucu i’r swydd allweddol hon gydag Uwch Dîm Arwain y Cyngor,” meddai.
“Mae’n angerddol am holl amrywiaeth y celfyddydau.
“Mae hefyd am ehangu ein hymgysylltiad â chymunedau ledled Cymru gan gynnwys datblygu gweithgarwch Cymraeg.”
Mae e hefyd wedi talu teyrnged i “waith rhagorol” Siân Tomos, “a adeiladodd sawl partneriaeth gan eiriol yn gryf dros y celfyddydau”.