Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud y byddai ennill annibyniaeth yn well i’r wlad na pharhau o dan reolaeth “llywodraeth ddianrhydedd, danseiliedig” a phrif weinidog “sydd, yn syml iawn, heb onestrwydd, heb gywilydd a heb gwmpawd moesol”.

Wrth ladd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Boris Johnson, cadarnhaodd fod “gwaith paratoadol ar y gweill” ar gyfer refferendwm annibyniaeth arall yn yr Alban, yn unol ag addewidion yr SNP a’r Blaid Werdd yn ystod yr etholiadau diwethaf yn Holyrood.

Mae Nicola Sturgeon am weld ail refferendwm annibyniaeth cyn diwedd 2023, os bydd y sefyllfa Covid-19 dan reolaeth erbyn hynny.

Ond mae Boris Johnson eisoes wedi gwrthwynebu hynny.

“Yr opsiwn amgen i annibyniaeth yw parhau i gael ein llywodraethu gan bleidiau yn San Steffan nad ydyn ni’n pleidleisio drostyn nhw ac, ar hyn o bryd, gan lywodraeth ddianrhydedd, danseiliedig a phrif weinidog sydd, yn syml iawn, heb onestrwydd, heb gywilydd a heb gwmpawd moesol,” meddai.

Mae Douglas Ross, arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, eisoes wedi galw am ymddiswyddiad Boris Johnson, ac wedi cyflwyno llythyr o ddiffyg hyder ynddo ac mae Nicola Sturgeon wedi tynnu sylw at hynny gan ddweud bod Boris Johnson “yn brif weinidog nad yw Douglas Ross hyd yn oed yn credu ei fod yn addas ar gyfer y swydd”.

“Gall yr Alban wneud yn well na hynny, a gydag annibyniaeth, byddwn ni yn gwneud yn well,” meddai.

Cynlluniau ar gyfer refferendwm

Daeth sylwadau Nicola Sturgeon wrth iddi ymateb yn Holyrood i gwestiwn gan Stuart McMillan, aelod o’r SNP ar y meinciau cefn.

“Fe wnaeth pobol yr Alban ethol y Llywodraeth hon fis Mai y llynedd, eu penderfyniad democrataidd oedd ethol Senedd â’r mwyafrif mwyaf erioed o Aelodau Seneddol Albanaidd o blaid refferendwm annibyniaeth,” meddai.

“Felly, yn unol â’r mandad clir a gafodd ei roi gan bobol yn yr etholiad hwnnw, mae’r gwaith paratoadol ar y gweill fel bod modd cynnal y refferendwm hwnnw, fel dw i wedi ei ddweud, wrth i’r argyfwng Covid fynd heibio ac os bydd Covid yn ein galluogi, o fewn hanner cynta’r tymor seneddol hwn.

“Yna, bydd gan bobol yr Alban y dewis i fynd â’n dyfodol i’n dwylo ni’n hunain, yn hytrach na bod ar drugaredd Llywodraeth ddianrhydedd, danseiliedig y Deyrnas Unedig.”

Torri addewidion

Yn ôl Nicola Sturgeon, mae pob addewid gan y rhai oedd o blaid aros yn y Deyrnas Unedig cyn y refferendwm cyntaf yn 2014 wedi cael ei dorri.

“O blith y rheiny, yn goron ar y cyfan roedd y ffaith mai’r unig ffordd o warchod aelodaeth yr Alban o’r Undeb Ewropeaidd, medden nhw, oedd pleidleisio ‘Na’ i annibyniaeth,” meddai.

“A dyma ni, wedi ein rhwygo allan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae pwynt allweddol yma oherwydd dyheadau yw annibyniaeth, a grymuso, a chymryd ein tynged i’n dwylo ni’n hunain fel y gallwn ni adeiladu dyfodol gwell.

“Dw i’n credu bod y Torïaid, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau amddifadu’r Alban o’r dewis oherwydd eu bod nhw’n ofni grym y ddadl bositif honno.

“Fyddai’r un blaid wleidyddol yn y siambr yma oedd sydd yn hyderus ynghylch eu dadleuon ynghylch annibyniaeth ddim yn despret i amddifadu pobol yr Alban o’r hawl i wneud y dewis hwnnw.”