Mae’r rheoleiddiwr ynni OFGEM wedi cadarnhau y bydd y cap ar dariff ynni domestig yn cynyddu 54% o 1 Ebrill ymlaen – rhywbeth fydd yn golygu y bydd biliau ynni tanwydd dwbl mewn cartrefi yn cynyddu i bron i £2,000 y flwyddyn, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae hi’n “hen bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau i helpu cartrefi a mynd i’r afael â’r helbul yn y marchnadoedd ynni domestig,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, wrth ymateb i’r newyddion.

Er bod y cap ar brisiau ynni, a gafodd ei godi ym mis Hydref, wedi helpu i warchod cartrefi rhag rywfaint o effeithiau gwaethaf y cynnydd mewn costau nwy a thrydan, mae National Energy Action yn dweud bod tua 22,500 o gartrefi yng Nghymru wedi wynebu tlodi tanwydd am y tro cyntaf ers hynny.

Mae perygl y bydd degau ar filoedd yn rhagor o deuluoedd yn dioddef yn sgil tlodi tanwydd o ganlyniad i’r cynnydd pellach hwn yn y cap ar brisiau, meddai Llywodraeth Cymru.

‘Gweithredu ar frys’

Mae Jane Hutt a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn nodi cyfres o gamau i helpu cartrefi â’u biliau ynni, ond dydyn nhw heb gael ateb ers anfon y llythyr bron i fis yn ôl.

“Ni fydd gwaith Llywodraeth Cymru ar ei phen ei hun yn ddigon i roi diwedd ar yr argyfwng costau ynni a’r argyfwng costau byw ehangach,” meddai Jane Hutt.

“Rydym wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a byddwn yn parhau i wneud hynny.

“Mae angen gweithredu ar frys i gynorthwyo pobol â’r prisiau ynni uchel hyn.

“Mae’n ymddangos mai ateb brys Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw llwytho mwy fyth o gostau ar filiau defnyddwyr.

“Bydd ei chynllun ad-dalu biliau ynni yn darparu gostyngiad o £200 ar filiau trydan yn unig o fis Hydref ymlaen, a fydd wedyn yn cael ei hawlio’n ôl yn awtomatig o filiau pobol mewn rhandaliadau gwerth £40 dros y pum mlynedd nesaf.

“Rydym yn gwneud popeth a allwn i gefnogi pobol Cymru â’r argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol, gan gynnwys dyblu taliad y Cymorth Tanwydd Gaeaf i £200 a buddsoddi rhagor yn ein Cronfa Cymorth Dewisol i helpu pobol y mae arnynt angen cymorth brys.

“Mae’n bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau i helpu cartrefi a mynd i’r afael â’r helbul yn y marchnadoedd ynni domestig.”

Cymru ‘ymysg yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio waethaf’ gan y cynnydd mewn prisiau ynni

Dangosa ymchwil newydd bod cartrefi yng Nghymru yn gwario 10% yn fwy ar drydan o gymharu â’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig

Dyblu budd-dal tanwydd i helpu â “chostau ynni cynyddol”

“Bydd y cynnydd hwn o £100 yn ychwanegol yn helpu’r bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dalu eu biliau tanwydd”