Mae Cymru ymysg yr ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sy’n cael eu heffeithio waethaf gan y cynnydd mewn biliau ynni.

Oni bai am gartrefi yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, cartrefi yng Nghymru sy’n gwario’r ganran fwyaf o’u harian ar nwy a thrydan, yn ôl data gan Boiler Central.

Mae gwahanol ardaloedd dros y Deyrnas Unedig yn gwario’n anghymesur ar drydan ac ynni, meddai Boiler Central, ac felly bydd rhai ardaloedd yn cael eu taro’n waeth nag eraill gan y cynnydd mewn prisiau.

Gan ddefnyddio data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch gwariant nwy a thrydan rhwng 2018 a 2020, dangosa’r ymchwil bod pobol yng Nghymru yn gwario 38% yn fwy o’u cyllidebau wythnosol ar nwy a thrydan o gymharu â Llundain.

Llundain yw’r ardal yn y Deyrnas Unedig sy’n gwario’r lleiaf ar ynni, gan olygu mai nhw fydd yn cael eu heffeithio leiaf gan y cynnydd mewn prisiau ynni.

Yn ôl yr ymchwil, nid yw De Ddwyrain Lloegr yn cael eu heffeithio gymaint â gweddill y Deyrnas Unedig gan gynnydd mewn prisiau ynni chwaith.

Dangosa’r ymchwil hefyd fod pobol yng Nghymru yn gwario 10% yn fwy ar drydan o gymharu â’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig.

Gogledd Iwerddon sy’n cael eu taro waethaf, gyda phobol yn gwario 66% yn fwy o’u cyllidebau wythnosol ar drydan yno, o gymharu ag yn Llundain.

“Anghymesur”

“Wrth i’r gaeaf nesáu, mae cynnydd mewn prisiau ynni wedi bod yn hawlio’r penawdau,” meddai llefarydd ar ran Boiler Central, a wnaeth gynnal yr astudiaeth.

“Pan rydyn ni’n edrych ar y data, mae’n amlwg fod rhai ardaloedd yn y Deyrnas Unedig yn gwario mwy, yn anghymesur, ar drydan nag ardaloedd eraill yn barod, a bydden nhw’n debygol o gael eu heffeithio’n waeth gan y cynnydd mewn prisiau ynni.

“Tra bod y llywodraeth yn edrych ar ffynonellau gwahanol i danwydd ffosil – megis hydrogen a phympiau gwres – gallai gymryd sawl blwyddyn i’r rheiny ddod yn opsiwn i bob cartref, ac yn y cyfamser, mae teuluoedd yn gorfod ymdopi â phrisiau nwy mwy anfforddiadwy fyth.”