Bydd pleidlais yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw (9 Tachwedd) i benderfynu a fydd angen pàs Covid i gael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Ar hyn o bryd, mae angen pas Covid i fynd i rai lleoliadau, gan gynnwys clybiau nos a digwyddiadau mawr ac fe fydd y bleidlais heddiw yn penderfynu a ddylid ehangu’r defnydd o basys Covid o 15 Tachwedd ymlaen.

Fe fydd Llywodraeth Cymru angen cefnogaeth y gwrthbleidiau pan fydd y bleidlais yn cael ei chynnal heddiw.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, dydi Llywodraeth Cymru heb ddarparu tystiolaeth fod y pasys yn cyfyngu ar ledaeniad Covid-19.

Fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn y cynllun cychwynnol, ond pasiwyd y mesur o un bleidlais wedi i un o’u haelodau fethu â phleidleisio, a bydden nhw’n gwneud yr un fath y tro hwn.

“Materion moesol”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ddileu pasys Covid yn gyfan gwbl, gan ddweud bod cyfraddau achosion Covid wedi bod yn gyson yng Nghymru am ddeufis.

Mewn cyfweliad gyda Wales Online dywedodd prif swyddogol meddygol Cymru, Dr Frank Atherton mai “bach iawn yw effaith uniongyrchol pasys Covid, mae’n debyg”.

Yn ôl Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae yna nifer o faterion moesol ac yn ymwneud â chydraddoldeb gyda’r pasbortau brechu, ac ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ymestyn y cynllun,” meddai.

“Ynghyd â phroblemau gyda rhyddid sifil, mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu â chynnig tystiolaeth bod pasbortau brechu yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws na chynyddu faint o bobol sy’n cael y brechlyn.

“Felly, dylai’r Prif Weinidog gael gwared arnyn nhw’n gyfan gwbl, yn hytrach na bygwth ymestyn eu defnydd, yn enwedig yn sgil y ffaith bod nifer yr achosion yn gostwng.”

Fe wnaeth Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn cyflwyno pasys Covid yn ystod y bleidlais gyntaf, ond dyw’r blaid heb benderfynu sut i bleidleisio y tro hwn.

Er hynny, dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth, wrth BBC Cymru Fyw eu bod nhw’n debygol o gefnogi’r estyniad.

“Afresymegol ac anymarferol”

Mae Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi ei gwneud hi’n glir na fydd ei phlaid yn cefnogi ehangu’r defnydd o basys Covid.

“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i wrthwynebu unrhyw ehangu ar y defnydd o bas Covid yng Nghymru,” meddai mewn datganiad.

“Roedd y bleidlais flaenorol ar weithredu’r cynllun yn seiliedig ar eu defnydd cyfyngedig mewn safleoedd a lleoliadau penodol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn torri ymddiriedaeth drwy ehangu’r cynllun er nad ydyn nhw wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth o’u heffeithiolrwydd wrth leihau nifer yr achosion.

“Ein barn ni yw bod y system yn afresymegol ac yn anymarferol. Mae tystiolaeth a ddatgelwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i ddangos, yn ogystal â phryderon ynghylch hawliau sifil, y gallai’r cynllun fod yn wrthgynhyrchiol, gan wthio pobol o leoliadau mwy i leoliadau llai sydd wedi’u hawyru’n wael.

“Rwyf hefyd yn pryderu’n fawr am effaith ariannol y cynllun ar ddiwydiant sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd delio â’r pandemig. Mae theatrau cymunedol a sinemâu wedi codi eu pryderon dro ar ôl tro ynghylch effaith ariannol ymestyn y cynllun, ac nid yw hyn wedi cael sylw digonol.”