Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am fuddsoddi dros £200 miliwn mewn ymchwil i adweithyddion niwclear bach, yn y gobaith o symud tuag at ynni glân “yn gyflymach”.
Yn ôl adroddiadau, mae Trawsfynydd a Wylfa ar Ynys Môn yn cael eu hystyried fel dau leoliad posib ar gyfer adeiladu’r pwerdai niwclear bach.
Dywedodd Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Kwasi Kwarteng, bod y cyllid – sy’n cael ei roi at £250 miliwn o arian o’r sector breifat – yn “gyfle unwaith mewn oes” i’r Deyrnas Unedig, wrth i’r Llywodraeth geisio dibynnu llai ar danwydd ffosil.
Gallai’r adweithyddion niwclear modiwlaidd (small modular reactors, SMR) gael eu cyflwyno erbyn dechrau’r 2030au, ac mae ganddyn nhw’r potensial i fod yn rhatach nag adeiladu pwerdy niwclear traddodiadol.
Yn ôl Rolls Royce SMR, sydd yn derbyn yr arian cyhoeddus, gallai sector adweithyddion niwclear modiwlaidd greu tua 40,000 swydd yn y Deyrnas Unedig.
Mae Rolls Royce eisoes wedi dweud bod yna “debygolrwydd” y gallai’r adweithyddion niwclear modiwlaidd cyntaf gael eu lleoli yn Nhrawsfynydd erbyn dechrau’r 2030au.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i dri chyn-weinidog ynni Torïaidd ddod ynghyd yng nghynhadledd COP26 i ddadlau bod angen derbyn y dylai niwclear, ynghyd â hydrogen, chwarae rhan wrth gynhyrchu ynni’n fyd-eang os am gyrraedd targedau sero-net.
Mae Rolls Royce SMR yn amcangyfrif bod gan bob adweithydd y maen nhw’n gobeithio ei adeiladu’r gallu i gyflenwi trydan i filiwn o dai.
“Mwy o annibyniaeth ynni”
Dywedodd Kwasi Kwarteng: “Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i’r Deyrnas Unedig greu mwy o ynni carbon isel na chynt a sicrhau mwy o annibyniaeth ynni.
“Mae adweithyddion niwclear modiwlaidd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i dorri costau ac adeiladu’n gynt, gan sicrhau ein bod ni’n gallu dod â thrydan glân i dai pobol a lleihau ein defnydd o danwydd ffosil ymhellach.
“Drwy ddefnyddio peirianneg a dyfeisgarwch Prydeinig, gallwn ni ddyblu ein cynllun i greu mwy o ynni glân lleol, fforddiadwy yn y wlad hon.”
“Bygythiad”
Fis diwethaf, pan oedd disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymeradwyo’r cyllid, dywedodd mudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) a’r grŵp gwrth-niwclear CADNO, na fydd “ynni niwclear yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni presennol”.
Mae Boris Johnson a’i weinidogion yn “methu’r pwynt yn llwyr wrth lynu at fawredd ymerodraethol y gorffennol trwy hyrwyddo niwclear”, yn ôl CADNO a PAWB.
“Mae ynni niwclear yn fudr, peryglus, eithriadol o ddrud, ac yn fygythiad i iechyd amgylcheddol a dynol,” medden nhw.
“Ni fydd ynni niwclear yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni presennol, nac yn effeithiol i wrthweithio effeithiau newid hinsawdd.
“Allwn ni ddim fforddio gwastraffu’r arian enfawr i godi gorsafoedd niwclear, ac yn sicr allwn ni ddim fforddio gwastraffu’r pymtheng mlynedd fyddai’n angenrheidiol i adeiladu gorsafoedd niwclear mawr newydd.
“Mae angen atebion i’r argyfyngau ynni a hinsawdd yn awr. Mae’r atebion hynny ar gael yn seiliedig ar raglen gynhwysfawr o ddatblygu technolegau adnewyddadwy ac arbed ynni.
“Bydd pob punt a wastreffir ar ynni niwclear yn bunt fydd yn cael ei thynnu oddi wrth atebion cyflymach a mwy effeithiol ynni adnewyddadwy ac arbed ynni.”
Mae’r cyllid o £210 miliwn yn rhan o Gronfa Niwclear Uwch gwerth £385 miliwn, a gafodd ei chyhoeddi llynedd gan Boris Johnson wrth iddo ddatgelu ei gynllun 10 pwynt ar gyfer “chwyldro diwydiannol gwyrdd”.