Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw’r bachgen 10 oed fu farw yn dilyn ymosodiad gan gi yng Nghaerffili.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi’u galw i eiddo ym Mhentwyn, Penyrheol tua 3.55pm ddydd Llun (8 Tachwedd) a bod y bachgen wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae’n debyg bod yr ymosodiad ar Jack Lis wedi digwydd yng nghartref ffrind mewn stryd gyfagos ar ôl ysgol.

Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion arfog yr heddlu ac nid oedd unrhyw anifeiliaid eraill yn rhan o’r ymosodiad, meddai’r heddlu.

“Hyfryd”

Mae mam Jack Lis wedi rhoi teyrnged i’w mab “hyfryd” ac “annwyl”.

Dywedodd ei fam Emma Whitfield ar Facebook nad oedd y ci yn perthyn iddyn nhw ac nad oedd yr ymosodiad wedi digwydd yn eu cartref.

Mae un o’r cymdogion, Tracey Lawrence, wedi dweud sut yr oedd y bachgen oedd yn byw yn y tŷ wedi rhedeg i gael help gan ffrind i’r teulu.

“Fe redodd i lawr yno a dweud ‘mae fy nghi yn ymosod ar fy ffrind,” meddai Tracey Lawrence.

“Wedyn wnaethon nhw redeg draw yno a thrio agor y drws a chael y bachgen allan ond roedd y ci yn gafael ar y bachgen a doedden nhw ddim yn gallu ei gael oddi arno.”

Credir fod y ci yn ddaeargi Americanaidd (American Pitbull).

“Cefnogaeth i’r teulu”

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough y byddai swyddogion yn gwneud rhagor o ymholiadau ac yn parhau ar y safle wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.

Wrth drydar ei ymateb, dywedodd Aelod Seneddol Llafur Caerffili, Wayne David, bod ei feddyliau gyda theulu’r bachgen, gan ychwanegu: “Dw i’n gwybod y bydd y gymuned yn rhoi eu holl gefnogaeth i’r teulu.”

“Mae fy nghydymdeimlad a’m meddyliau gyda theulu Jack, ei ffrindiau, ei ffrindiau yn yr ysgol a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn o fewn y gymuned,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r De.

“Gallwn gadarnhau na ddigwyddodd yr ymosodiad yn y tŷ sy’n eiddo i deulu Jack, ond y tu fewn i eiddo arall ar stryd gyfagos.

“Mae swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau pellach ar hyn o bryd, ac fe fyddan nhw’n aros ar y safle wrth i’r ymchwiliad barhau.

“Fe fydd presenoldeb sylweddol ymhlith swyddogion yn yr ardal hon wrth i’n hymholiadau barhau. Peidiwch â chael ofn, os gwelwch yn dda.”

Mae’r heddlu wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 gan nodi’r cyfeirnod 2100392510.