Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn annog pobl i gael eu brechiad atgyfnerthu Covid-19 yr hydref hwn i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyn y gaeaf.

Hyd yma, mae mwy na hanner miliwn o bobl wedi cael eu brechiad atgyfnerthu yng Nghymru, gan gynnwys tri chwarter o breswylwyr cartrefi gofal, mwy na hanner y rheini sy’n 70 i 74 oed a mwy na chwarter y rheini sy’n 65 i 69 oed.

Yn y cyfamser, mae ychydig dros 48% o blant 12-15 oed wedi eu brechu ac mae pawb yn y grŵp oedran hwn wedi cael cynnig y brechlyn.

Bydd unrhyw berson ifanc a oedd wedi methu â mynd i’w apwyntiad oherwydd trefniadau blaenorol neu oherwydd bod ganddynt y coronafeirws yn cael apwyntiad arall.

Mae apwyntiadau galw i mewn hefyd ar gael mewn rhai lleoliadau yng Nghymru ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn anfon apwyntiadau i’r rheini sy’n gymwys i gael y brechiad atgyfnerthu yn ôl trefn blaenoriaeth gan ddechrau gyda’r rheini sydd mewn mwyaf o berygl o gael salwch difrifol.

Bydd pobl yng Nghymru yn cael eu gwahodd gan eu bwrdd iechyd a fydd yn cysylltu â nhw pan ddaw eu tro.

“Cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd”

Bydd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn dweud mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (9 Tachwedd): “Mae ein gweithlu gofal a’r Gwasanaeth Iechyd yn gwneud gwaith anhygoel ond maen nhw wedi blino’n lân – maen nhw wedi gweithio mor galed ac wedi cyflawni popeth rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.

“Gallwn gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn drwy reoli lledaeniad y coronafeirws ac atal rhagor o bobl rhag bod yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

“Gallwn ni wneud hyn drwy sicrhau ein bod wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn Covid-19 a chael brechiad atgyfnerthu’r hydref hefyd os ydyn ni’n gymwys.

“Bydd cael brechlyn ffliw y gaeaf hefyd yn helpu.

“Mae’n bwysig hefyd inni ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer ein hanghenion gofal iechyd.

“Os oes angen gofal arnoch am fân anafiadau ac afiechydon, gall eich fferyllfa leol helpu ac, yn hytrach na mynd yn syth i adran damweiniau ac achosion brys, mae unedau mân anafiadau yn trin amrywiaeth eang o anafiadau.”