Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pedwar cynllun peilot ar gyfer trefniadau pleidleisio hyblyg sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.
Daw hyn fel rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hi’n “haws” i bobl Cymru bleidleisio.
Caiff etholiadau llywodraeth leol nesaf Cymru eu cynnal ar 5 Mai 2022.
O ganlyniad i’r cynlluniau peilot bydd pobol yn ardaloedd cyngor Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen yn gallu pleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio.
Bydd Parth Dysgu Blaenau Gwent, sy’n rhan o Goleg Gwent yng Nglynebwy, yn cael ei ddefnyddio fel gorsaf bleidleisio gynnar yn ystod yr wythnos yn arwain at ddiwrnod yr etholiad.
Yn y cyfamser, bydd modd i’r holl fyfyrwyr yno fwrw eu pleidlais – a hynny ar ôl i Gymru ostwng yr oedran pleidleisio i 16 y llynedd.
Ond bydd yr orsaf bleidleisio hefyd ar gael fel canolfan bleidleisio gynnar i holl drigolion y sir – waeth pa ward etholiadol y maen nhw’n byw ynddi.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd gorsaf bleidleisio newydd yn cael ei chreu mewn ysgol fel y gall disgyblion sy’n gymwys fwrw eu pleidlais yno cyn diwrnod yr etholiad.
Bydd gorsafoedd pleidleisio mewn wardiau lle mae canran isel o bobl yn bwrw eu pleidlais hefyd ar agor ar gyfer pleidleisio cynnar yn ystod yr wythnos yn arwain at yr etholiad.
Yng Nghaerffili a Thorfaen, bydd swyddfeydd y cyngor yn cael eu defnyddio fel canolfannau pleidleisio cynnar dros y penwythnos cyn diwrnod yr etholiad.
Byddan nhw ar agor i holl drigolion y sir, waeth pa ward etholiadol y maen nhw’n byw ynddi.
Bydd y cynlluniau treialu ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen hefyd yn golygu y bydd pobl o unrhyw le yn y sir yn gallu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ganolog, nid dim ond yn eu ward.
“Siapio ein democratiaeth”
“Mae mwy o bobl yn cymryd rhan weithgar yn ein democratiaeth yn dda i’n cymdeithas,” meddai Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
“Bydd y cynlluniau treialu hyn yn ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl bleidleisio, gan ddod â’r bocs pleidleisio’n nes at fywydau bob dydd pobl.
“Ar adeg pan mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cardiau adnabod pleidleiswyr o bosib yn gwneud pleidleisio’n fwy anodd, mae ein neges yn uchel a chlir y dylai pleidleisio fod yn haws.
“Roedd gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn gam mawr ymlaen sy’n cydnabod y cyfraniadau gwerthfawr y gall pobl ifanc eu gwneud.
“Rydym yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc siapio ein democratiaeth felly rwy’n falch y bydd cynlluniau treialu yn cael eu cynnal mewn ysgol a choleg.
“Bydd canlyniadau’r cynlluniau treialu yn cael eu hystyried yn ofalus a gallen nhw yn y pen draw ailwampio sut y mae pobl yn bwrw eu pleidlais ledled Cymru.”
‘Hawdd a chyfleus’
Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent: “Mae llais y dysgwr yn bwysig inni yng Ngholeg Gwent.
“Felly, mae cael pobl ifanc 16 oed yn pleidleisio yn yr etholiad yn gyfle gwych iddyn nhw ddweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc y tu hwnt i’r coleg.
“Rydym yn hapus i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth wneud hyn mor hawdd a chyfleus ag sy’n bosibl i’n dysgwyr ac rydym yn gobeithio gweld y cynlluniau treialu hyn yn cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl sy’n pleidleisio yn y grŵp oedran hwn.”
“Drewi”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu’r ffaith mai’r Blaid Lafur sydd mewn grym yn y pedwar cyngor lle mae’r cynllun yn cael ei beilota.
“Mae’r trefniadau hyn yn drewi,” meddai Darren Millar, llefarydd Cyfansoddiadol y Ceidwadwyr Cymreig
“Maent yn ddiangen ac ymddengys eu bod yn ymgais i roi hwb i’r Blaid Lafur mewn etholiadau.
“Mae gan bobol yng Nghymru eisoes ddigon o gyfle i bleidleisio gyda 15 awr i bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio yn ogystal â phleidleisio drwy’r post a phleidlais drwy ddirprwy sydd eisoes yn galluogi pobl i bleidleisio’n hyblyg ac ymlaen llaw.
“Mae’n ymddangos nad yw Gweinidogion Llafur ond am hyrwyddo nifer y bobl sy’n pleidleisio ymhlith grwpiau sydd, yn eu barn nhw, yn fwy tebygol o bleidleisio i Lafur.”