Mae dyn sydd wedi cael ei achub o ogof ym Mannau Brycheiniog ar ôl deuddydd wedi cael anafiadau, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl, yn ôl aelod o’r tîm oedd wedi ei achub.

Roedd bron i 250 o bobol yn rhan o’r ymdrechion i’w achub ar ôl iddo gwympo yn Ogof Ffynnon Ddu ger Ystradgynlais ddydd Sadwrn (Tachwedd 6).

Dydy’r dyn ddim wedi cael ei enwi, ond mae lle i gredu ei fod e’n brofiadol mewn ogofau, a’i fod e’n aelod o grŵp oedd wedi mynd i mewn i’r ogof.

Mae lle i gredu ei fod e wedi anafu asgwrn ei gefn, ac wedi torri ei ên a’i goes.

Fe fu timau achub yn gweithio mewn shifftiau i geisio’i achub dros y 48 awr diwethaf ac er eu bod nhw wedi dod o hyd iddo, fe allai gymryd hyd at ddeg awr arall i’w godi o’r ogof.

Dywed achubwyr ei fod e wedi bod “yn lwcus iawn” i oroesi’r digwyddiad, a’u bod nhw’n ceisio’i gadw’n gynnes.

Mae o leiaf wyth o dimau achub yn rhan o’r digwyddiad, ac maen nhw wedi dod o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Mae tîm achub mynydd hefyd ar y safle rhag ofn nad oes modd ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd o ganlyniad i’r tywydd a bod angen ei gario i lawr y mynydd.

Ond y gobaith yw y bydd modd ei gludo i’r ysbyty mewn car.

Rhan o beiriant tan

Ceisio achub dyn o ogof ym Mannau Brycheiniog

Fe gwympodd gan anafu ei hun ddau ddiwrnod yn ôl