Mae ymdrechion ar y gweill i achub dyn ar ôl iddo gwympo ac anafu ei hun mewn ogof ym Mannau Brycheiniog.

Fe ddigwyddodd ddau ddiwrnod yn ôl wrth i’r dyn fynd i Ogof Ffynnon Ddu ger Penwyllt yn ardal Ystradgynlais ddydd Sadwrn (Tachwedd 6).

Fe aeth yn sownd o ganlyniad i’w anafiadau.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod gan rywun arall am y digwyddiad.

Mae o leiaf wyth o dimau achub o sawl rhan o’r Deyrnas Unedig yn rhan o’r ymdrechion i’w achub.