Mae band llydan cyflym yn dod i Lanfairpwll diolch i bartneriaeth rhwng trigolion lleol a chwmni Openreach a fydd yn sicrhau ei fod ymhlith y cysylltiadau cyflymaf yn Ewrop.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd pobol leol yn gallu manteisio ar gysylltedd o un gigabit yr eiliad gan ddefnyddio rhwydwaith ffibr llawn Openreach – cysylltedd sy’n golygu bod ffibr yn rhedeg yn uniongyrchol o’r gyfnewidfa i gartrefi pobol.

Bwriad rhaglen Openreach yw helpu pobol sy’n byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn rhan o gynlluniau i gyflwyno band llydan yn y dyfodol agos.

Mae lle i gredu mai hwn yw’r cynllun mwyaf o’i fath yng Nghymru, gan ddiweddaru cysylltedd oddeutu 1,360 o gartrefi.

Bydd y gwaith o osod oddeutu 85km o wifrau ffibr uwchben ac islaw’r ddaear yn dechrau o’r gyfnewidfa ffôn ym Mangor.

Ymateb Openreach

“Rydym oll yn gwybod pa mor hanfodol yw hi i gartrefi a busnesau i fyny ac i lawr y wlad gael band llydan cyflym a dibynadwy,” meddai Jamie Edwards, rheolwr ymgysylltu gwledig Openreach.

“O redeg busnes i addysgu yn y cartref a siopa – mae cymaint yn cael ei wneud ar-lein.

“Tra bod gan fwy na 95% o eiddo yng Nghymru fynediad at fand llydan cyflym iawn eisoes, rydym yn gwybod fod mwy i’w wneud i gyrraedd yr eiddo olaf hynny.

“Mae nifer fach o gymunedau fel Llanfairpwll yn colli allan ar gysylltedd band llydan da.

“Mae ein Partneriaeth Ffibr Gymunedol yn helpu i ddod â chysylltedd cyflym iawn i’r ardaloedd hynny er mwyn cau’r bwlch.”