Roedd rhaid i bobol adael eu cartrefi yn dilyn tân mewn pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot neithiwr (nos Sul, Tachwedd 7).
Cafodd criwiau tân eu galw i dân mewn adeilad ar Heol Jersey ym mhentref Blaengwynfi tua 9:30yh.
Dywed Heddlu’r De fod un plentyn wedi derbyn triniaeth am effeithiau anadlu mwg.
Does dim rhagor o adroddiadau am unrhyw anafiadau, meddai’r heddlu.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrthi’n trefnu llety dros dro ar gyfer trigolion sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Mae’r heddlu hefyd yn annog pobol i osgoi’r ardal.