Bydd Boris Johnson yn wynebu galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i honiadau am lygredd o fewn y Blaid Geidwadol, wrth i aelodau seneddol ystyried sut i ymateb i’r ddadl ynghylch Owen Paterson.

Dywedodd Chris Bryant, yr Aelod Seneddol Llafur dros y Rhondda a chadeirydd Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin, wrth BBC Breakfast ei fod eisiau gweld “system safonau addas a chryf” wedi i Paterson ymddiswyddo’r wythnos ddiwethaf.

Fe fu Aelod Seneddol Sir Amwythig yn destun sylw’r wasg yn dilyn pleidlais ddadleuol i beidio â’i wahardd o’r Senedd am dorri rheolau lobïo honedig.

Cyhoeddodd Paterson y byddai’n ymddiswyddo wedi i Boris Johnson orfod anghofio am gynllun i atal yr aelod seneddol rhag cael ei wahardd ar unwaith, drwy lansio adolygiad i’r holl system ddisgyblu.

Cafodd y cynllun dadleuol gefnogaeth bron i 250 o Aelodau Seneddol Torïaidd, er bod yna wrthwynebiad sylweddol. Ond bu’n rhaid i’r Llywodraeth wneud tro pedol, gan feio diffyg cefnogaeth drawsbleidiol.

‘A yw safonau’n bwysig?’

Dywed Chris Bryant ei fod yn fater o “a yw safonau’n bwysig i Aelodau Seneddol”.

“Fe aeth y rhan fwyaf ohonom ni i mewn i wleidyddiaeth er mwyn gwneud y byd yn well,” meddai.

“Mae’r mesur a gafodd ei gario’r wythnos ddiwethaf yn golygu ein bod ni’n sefydlu pwyllgor gwahanol ac rydyn ni wedi gadael y cwestiwn a oedd Owen Paterson yn euog ai peidio yn ei le. Rydyn ni wedi penderfynu ei fod yn ymddygiad anaddas.

“Dw i’n credu yn y senedd, a’r gallu i newid pethau.”

Ymchwiliad

Bydd aelodau o Dŷ’r Cyffredin yn treulio teirawr yn gwrando ar ddadl frys am y mater, er bod sawl gweinidog wedi ceisio tanbrisio’r ddadl.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i honiadau o lygredd.

Byddai’r ymchwiliad yn archwilio ffrae Paterson, yn ogystal â sut gafodd cytundebau Covid eu rhoi, a gafodd gwyliau Boris Johnson i gartrefi ei ffrindiau dramor eu datgelu’n iawn, a sut gafodd y gwaith o adnewyddu ei fflat yn Downing Street ei ariannu.

Fe wnaeth Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, roi caniatâd i’r ddadl fynd yn ei blaen yr wythnos ddiwethaf.

Roedd adroddiadau dros y penwythnos yn awgrymu y byddai’r Llefarydd yn cynnig diwygiadau i’r broses safonau hefyd, er mwyn ceisio tawelu’r ddadl.

‘Clirio’r stablau’

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud y dylai’r prif weinidog ymddiheuro wrth y genedl, a “chlirio’r stablau Awgeas budr y mae e wedi’u creu”.

Cyn y drafodaeth, dywedodd Keir Starmer fod rhaid i Boris Johnson gadarnhau’n gyhoeddus na fydd y cyn-weinidog Cabinet, Owen Paterson, yn cael ei enwebu ar gyfer Arglwyddiaeth.

Mae ffynonellau yn Downing Street wedi awgrymu nad oes bwriad gwneud hynny.

Keir Starmer fydd yn arwain y ddadl ar ran y Blaid Lafur, ond mae disgwyl i Boris Johnson drosglwyddo’r awenau i Jacob Rees-Mogg ar ran y Llywodraeth.

“Mae angen i Boris Johnson ddod i’r drafodaeth, ateb dros ei gamgymeriadau, ymddiheuro wrth ei wlad, a gweithredu er mwyn dadwneud y difrod y mae e wedi’i wneud,” meddai Keir Starmer.

“Dydi’r wlad heb glywed gair o edifeirwch dros ei ymdrechion i greu un rheol iddo ef a’i ffrindiau ac un arall i bawb arall. Mae’n rhaid iddo ddod i’r Tŷ a dweud sori.”

‘Rigio’r system’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwthio am newid i reolau Tŷ’r Cyffredin er mwyn atal unrhyw aelod seneddol sy’n destun ymchwiliad gan y Comisiynydd Seneddol dros Safonau rhag pleidleisio neu gynnig diwygiadau i fesurau yn ymwneud â materion disgyblu.

Dywed Wendy Chamberlain, prif chwip y Democratiaid Rhyddfrydol, ei fod e’n “gyfystyr â diffynyddion mewn achos llys yn cymryd rhan yn y rheithgor hefyd”.

“Dro ar ôl tro, mae gweinidogion y Llywodraeth wedi gwrthod ymchwilio i honiadau o lygredd yn iawn, wedi methu datgelu cyfarfodydd a rhoddion perthnasol, ac wedi trio rigio’r system er mwyn helpu eu hunain.

“Rydyn ni angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, gyda’r pwerau a’r adnoddau i ddod i ddiwedd y sgandal lygredd Geidwadol hon.”

‘Môr a mynydd’

Wnaeth sylwadau George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd – bod “môr a mynydd” wedi cael eu gwneud o’r ffrae – ddim helpu i wella’r berthynas rhwng aelodau seneddol Torïaidd.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Robert Largan, a gafodd ei ethol yn 2019, wrth Times Radio nad oedd y sylwadau’n rhai “defnyddiol iawn”.

“Yn fy marn i, roedd hyn yn rhywbeth gawsom ni’n anghywir iawn ac rydyn ni angen ei drwsio,” meddai.

Dywedodd Aelod Seneddol Torïaidd arall wrth asiantaeth newyddion Press Association fod sylwadau George Eustice yn “nonsens llwyr”.

“Maen nhw angen dod at eu coed a deall nad fel hyn mae’r byd yn gweithio ddim mwy. Efallai mai felly oedd hi ugain mlynedd yn ôl neu rywbeth felly, ond mae pobol yn disgwyl y safonau uchaf, ac mae hynny’n beth iawn.”

Owen Paterson wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae am safonau ymddygiad Aelodau Seneddol

Fe ddywedodd fod y diwrnodau diwethaf wedi bod yn rhai “annioddefol”