Dylai archfarchnadoedd, cynghorau a lleoliadau lletygarwch orfod datgelu faint o fwyd maen nhw’n ei wastraffu, a chyrraedd targedau lleihau blynyddol, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth.
Mae gwastraff a cholli bwyd yn gyfrifol am 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang ac yn fyd-eang, mae dros draean o’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu i’w fwyta gan bobol yn cael ei wastraffu bob blwyddyn.
Mae Dr Siobhan Maderson o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn rhan o dîm o enillwyr Lab Polisi rhaglen Diogelwch Bwyd Byd-eang, a bydd eu hargymhellion yn cael eu cyhoeddi yn COP26 heddiw (dydd Llun, Tachwedd 8).
Ymysg y cynigion polisi eraill sy’n ymddangos mewn adroddiad gan Dr Maderson a’i chydweithwyr, maen nhw am weld mesur, nodi a lleihau’r colledion a gwastraff bwyd yn cael eu cynnwys mewn contractau cyflenwyr-manwerthwyr.
Maen nhw hefyd am i reolau a rheoliadau cyfredol ar waredu gwastraff bwyd gael eu hadolygu, gan ddweud y dylid ystyried eu hailgyflenwi, er enghraifft fel bwyd i anifeiliaid.
Dylid cefnogi cadwyni cyflenwi mwy effeithlon, meddai’r ymchwilwyr, gan eu gwneud nhw’n llai gwastraffus.
Mae’r ymchwilwyr yn galw am fwy o ymchwil ar gymorth seilwaith ar gyfer colledion bwyd a hybiau dosbarthu gwastraff, a’r ffordd mae gwybodaeth am effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ein systemau bwyd yn cael ei chasglu hefyd.
10% o allyriadau byd-eang
Wrth siarad cyn cyhoeddi’r argymhellion yn COP26, dywedodd Dr Siobhan Maderson o Brifysgol Aberystwyth fod lleihau gwastraff bwyd yn “rhan allweddol” o leihau nwyon tŷ gwydr.
“Mae COP26 yn gyfle brys i gael gwledydd i leihau eu nwyon tŷ gwydr, ac mae lleihau colledion a gwastraff bwyd yn rhan allweddol o hynny,” meddai Dr Siobhan Maderson.
“Pe bai colledion a gwastraff bwyd yn cael eu cynrychioli fel gwlad, hi fyddai’r trydydd allyrrydd mwyaf o nwyon tŷ gwydr, gan achosi 10% o allyriadau byd-eang.
“Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ar leihau gwastraff bwyd yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac aelwydydd.
“Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn tynnu sylw at wastraff ac aneffeithlonrwydd ledled y system fwyd, gan gynnwys ar y fferm, ac o ganlyniad i fanylebau cytundebol hynod gyfyngol rhwng cyflenwyr a manwerthwyr.
“Mae cynhyrchu, bwyta a gwastraffu bwyd yn achosi effeithiau sy’n costio ein cymdeithas, ond nid yw’r costau hyn fel arfer yn cael eu cynnwys ym mhris y bwyd rydyn ni’n ei brynu.
“Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys sut nad yw pris bwydydd braster uchel a siwgr uchel yn cynnwys costau’r gwasanaeth iechyd sy’n trin afiechydon sy’n deillio o ddietau sy’n cynnwys canran uchel o’r bwydydd hyn.
“Enghraifft arall yw pris cig nad yw’n cynnwys costau delio ag effeithiau amgylcheddol negyddol o ffermio da byw.
“Fe wnaethon ni archwilio dull ar gyfer asesu a deall gwir effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gwahanol systemau cynhyrchu bwyd, o’r enw True Cost Accounting neu Gyfrifeg Gwir Gost.
“Mae angen i ni ddatblygu systemau a all oresgyn meddylfryd am yr hyn sy’n achosi ac yn gyfrifol am golledion a gwastraff bwyd.
“Mae angen i ni gefnogi ymdrechion cydweithredol i wneud systemau bwyd yn fwy effeithlon yn amgylcheddol, ac yn gymdeithasol gyfiawn.”
‘Pob rhan o’r system’
Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn anelu at haneru gwastraff bwyd y pen ar lefel manwerthu a defnyddwyr, ynghyd â lleihau colledion bwyd ar hyd cadwyni cynhyrchu a chyflenwi, erbyn 2030.
Mae diffyg amser, gwybodaeth a sgiliau ar gyfer prynu a pharatoi bwyd ymhlith y rhwystrau i leihau gwastraff bwyd gartref, yn ôl Dr Siobhan Maderson.
“Mae dyddiadau defnyddio erbyn a meintiau dognau mawr yn gwaethygu hyn,” meddai.
“Mae’r ffaith fod bwyd rhad, a gynhyrchir yn fyd-eang, ar gael bron a bod yn ddiderfyn hefyd yn datgysylltu defnyddwyr oddi wrth wir werth ac effaith eu bwyd, a’r gwerth a gollir wrth ei wastraffu.
“Yn bwysig, mae angen i ni edrych y tu hwnt i wastraff cartref unigol, a mynd i’r afael â cholled a gwastraff ym mhob rhan o’r system fwyd. Mae cadwyni cyflenwi mawr, cymhleth yn arwain at orgynhyrchu a gor-stocio.
“Mae gwastraff na ellir ei osgoi, yn ogystal â bwyd sydd wedi’i ddifetha neu ei ddifrodi, fel arfer yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, oherwydd y rheoliadau cyfredol ar ail-bwrpasu colledion a gwastraff bwyd.”