Gallai bygythiad y Deyrnas Unedig i stopio ariannu tair o raglenni ymchwil yr Undeb Ewropeaidd fod yn “ddinistriol” i addysg uwch yng Nghymru, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn ôl y Telegraph, mae papur gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd wedi cael ei gyhoeddi, yn dweud eu bod nhw’n paratoi cynlluniau i stopio ariannu rhaglenni Horizon Europe, Copernicus ac Euratom pe bai’r berthynas rhyngddyn nhw a’r Undeb Ewropeaidd yn gwaethygu eto.
Mae’r tair rhaglen yn canolbwyntio ar wyddoniaeth, lloerennau a niwclear, ac mae’n werth £77bn.
Cytunodd y Deyrnas Unedig i barhau i fod yn rhan o’r rhaglenni wrth arwyddo cytundeb Brexit y llynedd, ond mae’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Llywodraeth yn awgrymu eu bod nhw’n llunio mesurau i liniaru opsiynau dial fyddai ar gael i’r Comisiwn Ewropeaidd petai Prydain yn tanio Erthygl 16 o Brotocol Gogledd Iwerddon yn yr wythnosau nesaf.
Mae disgwyl i’r Deyrnas Unedig gyfrannu £2.1bn y flwyddyn i raglen Horizon er mwyn caniatáu mynediad i wyddonwyr ac ymchwilwyr o Brydain at gyllid a phrosiectau pan-Ewropeaidd.
Mae Cymru wedi derbyn tua £120m o gyllid Horizon 2020 ers dechrau’r rhaglen, sy’n cynnwys 375 o gyfranwyr a dros 4,000 o gydweithrediadau rhyngwladol.
‘Ymddygiad cwbl anghyfrifol’
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn “chwarae ar y dibyn”, ac mae hynny’n “gywilyddus” ac yn “cynrychioli perygl annerbyniol i’r sector addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru, yn ogystal â sefydlogrwydd tymor hir Cymru’n gyffredinol”.
“Mae’r sector addysg uwch ac ymchwil yn hanfodol i Gymru gydag astudiaeth o 2020 yn canfod bod prifysgolion wedi cyfrannu dros £5bn i economi Cymru a chynhyrchu cyfartaledd o 61,722 swydd y flwyddyn,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Mae’r sector wedi profi cythrwfl sylweddol yn barod yn sgil Brexit, gyda nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig wedi haneru yn y flwyddyn 2021 a sefydliadau’n cael trafferth recriwtio a chadw staff o’r Undeb Ewropeaidd.
“Bu’n rhaid i’r gwaith o glirio llanast y Ceidwadwyr a chyflwyno rhaglen Gyfnewid Ryngwladol gael ei wneud gan Weinidog Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, ar ôl iddyn nhw dynnu’r Deyrnas Unedig allan o Erasmws, er eu bod nhw wedi addo peidio.
“Y peth olaf mae ein sector addysg uwch ac ymchwil ei angen nawr yw mwy o ansicrwydd.
“Er bod y Torïaid wedi dweud y bydden nhw’n cyfnewid yr arian am raglen ddomestig petaen nhw’n gadael Horizon, sut ar wyneb y ddaear allwn ni ymddiried ynddyn nhw wrth i bob rhaglen gyfnewid arall sydd wedi’i chyflwyno gan y Ceidwadwyr fod yn annigonol, heb ddigon o adnoddau, ac wedi’u tanariannu.
“Dylen ni fod yn edrych ar wella’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd a chynyddu cydweithio, nid gosod bygythiadau pellach.
“Dw i’n galw ar y Blaid Geidwadol i roi’r gorau i’r ymddygiad cwbl anghyfrifol hwn sy’n rhoi swyddi a bywoliaethau pobol, yn ogystal ag economi Cymru, mewn peryg, mae’n rhaid iddyn nhw roi’r sicrwydd a sefydlogrwydd sydd ei angen ar sector addysg uwch ac ymchwil Cymru iddyn nhw.”
Mae’r Telegraph hefyd ar ddeall bod yr Arglwydd Frost, y Gweinidog Brexit, wedi bod yn gweithio gyda’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng er mwyn adfer rhaglen gyfatebol y Deyrnas Unedig i Horizon Europe.