Fe fydd gwrandawiad cynta’r ymchwiliad cyhoeddus i helynt is-bostfeistri Swyddfa’r Post yn cael ei gynnal heddiw.
Bydd yr ymchwiliad yn gofyn beth aeth o’i le, pwy oedd yn gyfrifol a sut mae modd osgoi ailadrodd yr helynt yn y dyfodol.
Roedd y Llys Apêl wedi gwyrdroi euogfarnau degau o gyn-isbostfeistri, gan gynnwys dyn o Sir Benfro, a gafodd eu cyhuddo ar gam o droseddau yn ystod sgandal Swyddfa’r Post Horizon.
Erbyn hyn, mae 57 o bobol wedi clirio eu henwau, ond mae cannoedd o isbostfeistri eraill yn gobeithio y bydd eu heuogfarnau nhw’n cael eu gwyrdroi hefyd.
Rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o gyn-reolwyr eu herlyn yn sgil problem gyda system gyfrifiadurol Horizon, oedd yn cael ei defnyddio gan Swyddfa’r Post.
Ymhlith y deuddeg a gafodd glirio eu henwau eisoes mae Tim Brentnall, o bentre’r Garn yn Sir Benfro, a gafodd ei erlyn yn 2010 ar ôl i £22,000 ddiflannu o Swyddfa’r Post yno.
Er ei fod e’n gwybod nad oedd e wedi dwyn arian, cymerodd ei rieni fenthyciad er mwyn talu’r arian yn ôl i Swyddfa’r Post, ond cafodd ei erlyn am ffugio cyfrifon yn fuan wedyn.
Fel nifer o isbostfeistri eraill, cafodd ei annog i bledio’n euog, a chafodd ddedfryd o ddeunaw mis yn y carchar wedi’i ohirio, a 200 awr o wasanaeth cymunedol.
Apeliadau
Cafodd rhai o’r isbostfeistri eu carcharu ar gam ar ôl cael eu cyhuddo o ddwyn arian gan Swyddfa’r Post, gan gynnwys Noel Thomas o Ynys Môn, a dreuliodd naw mis yn y carchar.
Fe gafodd cyhuddiadau Noel Thomas a 38 arall eu gwyrdroi ym mis Ebrill eleni, wedi i’r un fath ddigwydd i chwech arall ym mis Rhagfyr.
Mewn gwrandawiad ym mis Mawrth, clywodd y llys fod bywydau’r isbostfeistri wedi’u “difetha yn anadferadwy” gyda rhai yn colli eu swyddi a’u cartrefi, a phriodasau’n chwalu.
Cafodd mwy o bobol eu heffeithio gan yr achos hwn nag unrhyw achos arall o gamweinyddiad cyfiawnder yn y Deyrnas Unedig.
“Mae Swyddfa’r Post wir yn sori am fethiannau yn y gorffennol ac rydyn ni’n croesawu penderfyniad y Llys heddiw i wyrdroi’r cyhuddiadau heb oedi yn yr apeliadau y gwnaethom ni eu cefnogi,” meddai llefarydd ar y pryd.
“Rydyn ni’n gwneud ymdrechion diwyd i gydnabod camweinyddion cyfiawnder hanesyddol yn deg, gan gynnwys adolygiad helaeth o erlyniadau ers 1999 er mwyn adnabod ac amlygu’r holl ddeunydd a allai effeithio sicrwydd cyhuddiadau.
“Rydyn ni hefyd yn trawsnewid ein mudiad er mwyn atal y fath ddigwyddiadau rhag digwydd byth eto ac ailosod ein perthynas gyda phostfeistri.”
Cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn i gyd, ond cafodd 39 o’r euogfarnau eu gwyrdroi ond roedd hi’n rhy hwyr i nifer ohonyn nhw ar ôl iddyn nhw ddiodde’n sylweddol.
Fel rhan o’r ymchwiliad cyhoeddus, fe fydd rhaid i dystion roi tystiolaeth, ond mae’r dioddefwyr yn dweud nad yw hynny’n mynd yn ddigon pell.
Maen nhw hefyd yn cyhuddo Swyddfa’r Post o lusgo’r achos allan, gan gwestiynu a fyddan nhw’n derbyn iawndal, ac maen nhw’n galw am gosbi Swyddfa’r Post yn llym.
Dywed Swyddfa’r Post fod angen cynnal ymchwiliad trylwyr, a’u bod nhw’n barod i gydymffurfio â’r ymchwiliad cyhoeddus hwn.
‘Wir yn sori’
“Mae Swyddfa’r Post wir yn sori am fethiannau yn y gorffennol ac rydyn ni’n croesawu penderfyniad y Llys heddiw i wyrdroi’r cyhuddiadau heb oedi yn yr apeliadau y gwnaethom ni eu cefnogi,” meddai llefarydd.
“Rydyn ni’n gwneud ymdrechion diwyd i gydnabod camweinyddion cyfiawnder hanesyddol yn deg, gan gynnwys adolygiad helaeth o erlyniadau ers 1999 er mwyn adnabod ac amlygu’r holl ddeunydd a allai effeithio sicrwydd cyhuddiadau.
“Rydyn ni hefyd yn trawsnewid ein mudiad er mwyn atal y fath ddigwyddiadau rhag digwydd byth eto ac ailosod ein perthynas gyda phostfeistri.”