Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi cynlluniau i fynd i’r afael â thlodi mislif.

Ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth dosbarthu cynnyrch mislif, eco-gyfeillgar am ddim i’r cartref.

Caiff hyn ei weithredu gan y fenter gymdeithasol Hey Girls.

Mae hyn ar ben y cynnyrch mislif sydd eisoes ar gael o fewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a banciau bwyd ym Mhowys.

Dywed y Cyngor ei fod yn rhan o’r ymdrechion yn lleol ac yn genedlaethol i fynd i’r afael â thlodi mislif o fewn cymunedau ac i hyrwyddo urddas mislif ar draws Cymru.

“Symudiad gwirioneddol bositif”

“Dyma symudiad gwirioneddol bositif i helpu sicrhau bod merched a gwragedd o fewn ein cymunedau yn gallu cael mynediad rhwydd at gynnyrch mislif,”  meddai Rosemarie Harris, arweinydd Cabinet Cyngor Sir Powys.

“Ni ddylid cael sefyllfaoedd lle mae mislif merch neu wraig yn rhwystr rhagddi yn gallu llwyddo mewn bywyd ac mae’n galonogol gweld y gwaith o fewn ysgolion a chymunedau i fynd i’r afael â’r stigma a thabŵau ynghylch y mater hwn sydd yn dal i fodoli heddiw yn anffodus.

“Fe fyddem yn annog unrhyw un o bob cwr o’r sir na allant fforddio na chael mynediad yn rhwydd at gynnyrch mislif i fanteisio ar y cyfle hwn.”