Mae rhaglen hyfforddi a gafodd ei chreu i ddatblygu’r diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod wedi rhagori ar ei tharged.

Yn wreiddiol, roedd targed o gynnal 1,000 o ddyddiau hyfforddi ond ers mis Ebrill 2019, mae 5,500 wedi’u cynnal.

Lantra – sefydliad sy’n datblygu cyrsiau hyfforddi, cymwysterau a phrentisiaethau – sy’n darparu rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru ac mae’n cefnogi busnesau o bob maint yn sector bwyd a diod Cymru.

Y bwriad ydi sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar gyfer eu busnes.

Gan weithio ar draws pob sector yn y diwydiant, mae’n helpu gweithwyr i addasu i heriau economaidd ac amgylcheddol y dyfodol a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer datblygu a thyfu busnesau.

Gall busnesau wneud cais am gyllid i helpu gyda’u hanghenion hyfforddi.

Mae swm y cyllid sydd ar gael yn amrywio o 50% i 80%, yn dibynnu ar faint y busnes.

I fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid bod gan y busnes safle cynhyrchu neu weithgynhyrchu yng Nghymru a rhaid iddyn nhw allu dangos enillion clir ar fuddsoddiad yn dilyn yr hyfforddiant.

‘Rhagori’

“Rwy’n falch iawn o ddatblygiad y rhaglen ers i ni ddechrau ym mis Ebrill 2019,” meddai Sarah Lewis, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd Cymru.

“Ar ôl gosod targed o 1000 o ddyddiau hyfforddi i ni ein hunain rydym ni wedi rhagori ar hynny a bellach wedi cefnogi busnesau bwyd a diod Cymru gyda dros 5,500 o ddyddiau hyfforddi.

“Dangosodd ein hymchwil flaenorol fod cryn dipyn o fylchau sgiliau a phrinder technegol nid yn unig o fewn technoleg bwyd a deddfwriaeth diogelwch bwyd, ond hefyd mewn meysydd eraill fel arweinyddiaeth a rheolaeth, ymwybyddiaeth gwastraff a gwerthu a marchnata.

“Fodd bynnag, gyda’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y busnesau hyn gallwn helpu i sicrhau bod gan eu gweithwyr y sgiliau cywir i ffynnu mewn diwydiant sy’n newid yn barhaus.”

Cyllid yn dal ar gael

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i fusnesau wneud cais am gymorth cyllid, ond mae angen iddyn nhw weithredu’n fuan.

“Y dyddiad olaf i fusnesau gyflwyno cais am gyllid ar gyfer hyfforddiant yw 17 Rhagfyr, ac mae angen cwblhau’r holl hyfforddiant erbyn 18 Chwefror 2022,” meddai Sarah Lewis wedyn.

“Mae ein cefnogaeth hyfforddi yn cwmpasu ystod o feysydd hanfodol sydd eu hangen ar draws y diwydiant heddiw.

“Byddwn yn ystyried cyllido unrhyw anghenion hyfforddi a allai fod gan fusnes unigol.

“Felly, hoffem ni annog pob busnes prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod i gysylltu â’r tîm heddiw i drafod anghenion hyfforddi eich staff.”