Fe wnaeth gorymdaith a rali ym Mangor, a gafodd eu trefnu gan Grŵp Gweithredu Hinsawdd Gogledd Orllewin Cymru, ddenu tua 400 o bobol ddydd Sadwrn (Tachwedd 6).
Roedd yn rhan o ddiwrnod byd-eang o weithredu ar newid yn yr hinsawdd, lle bu gorymdeithiau ar hyd a lled Cymru.
Ar yr un pryd, roedd uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow, lle mae arweinwyr gwleidyddol y byd yn trafod sut i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.
Cymerodd llawer o sefydliadau a grwpiau lleol ran, gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, Cymorth Cristnogol, Celfyddydau Cymunedol Bangor, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Gwrthryfel Difodiant Bangor a Chonwy.
Ymlith y rhai fu’n siarad roedd Dr Alison Cameron o Brifysgol Bangor, Ize Adava o Gymdeithas Gogledd Cymru Affrica, Anna Jane Evans ar ran Cymorth Cristnogol a Carolyn Thomas, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru.
Roedd adloniant hefyd gan Gantorion Stryd Bangor ac Eric Maddern, a berfformiodd rap hinsawdd.
‘Angen gweithredu brys’
“Nod y Diwrnod Gweithredu Byd-eang oedd rhoi pwysau ar y gwleidyddion i wneud beth bynnag sy’n angenrheidiol i gadw cynhesu byd-eang o fewn 1.5°C a rhoi digon o gefnogaeth i helpu’r gwledydd a’r cymunedau a fydd yn cael eu taro waethaf,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.
“Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd sydd bron yn rhy ofnadwy i’w hystyried, a’r bobol fydd yn cael eu taro waethaf fel arfer yw’r rhai sydd wedi gwneud y lleiaf i achosi’r broblem.
“Os ydym am ddiogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni weld gweithredu brys yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol.”