Mae ymgyrchwyr newid hinsawdd wedi dod ynghyd ar hyd a lled Cymru ar ddiwrnod o weithredu byd-eang.
Fe ddaw wrth i uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 gael ei chynnal yn Glasgow, lle mae arweinwyr gwleidyddol y byd yn trafod sut i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.
Ar lawr gwlad yng Nghymru, mae gorymdeithiau a ralïau wedi’u cynnal yn Abertawe, Caerdydd, Bangor, Llangollen a Chaergybi.
Yn Abertawe, fe fu Geraint Davies, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe, a Rhiannon Barrar (Plaid Cymru) o Glydach ymhlith y siaradwyr, tra bod Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd tros Dde-orllewin Cymru ymhlith y dorf, ynghyd â chynrychiolwyr o undebau llafur a Gwrthryfel Difodiant.
Mae lle i gredu bod rhwng 300 a 400 o bobol wedi dod ynghyd yn Sgwâr y Castell ar gyfer y digwyddiad.
Fe fu’r protestwyr yn gwisgo placardiau o amgylch eu gyddfau gydag amrywiaeth o negeseuon arnyn nhw – “moroedd yn codi”, “galaru am ofodau coll”, “galarnadu colli pryfed”, “gofid am genedlaethau’r dyfodol”, “digalonni am y byd” a “galaru am dorri coedwigoedd”.
Yng Nghaerdydd, mae’r digwyddiad wedi cyrraedd y Senedd ym Mae Caerdydd ar y diwrnod pan fo tîm rygbi Cymru’n herio De Affrica yn Stadiwm Principality a thîm pêl-droed Caerdydd yn croesawu Huddersfield i Stadiwm Dinas Caerdydd.
At ei gilydd, mae disgwyl hyd at 100,000 o bobol yn y brifddinas.
Glasgow, COP26 a gweddill y Deyrnas Unedig
Daw’r digwyddiadau wrth i arweinwyr gwleidyddol o bob cwr o’r byd ddod ynghyd yn Glasgow ar gyfer uwchgynhadledd COP26.
Yn ystod yr uwchgynhadledd, mae gwleidyddion wedi cael cais i dorri allyriadau carbon erbyn 2030, ac i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd selsiws er mwyn atal trychineb.
Y nod, a’r gobaith, erbyn 2050 yw i’r byd fod yn sero-net.
Ar y diwrnod byd-eang, mae lle i gredu bod cyfanswm o ryw 200 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Yn Glasgow, mae ymgyrchwyr amgylcheddol, undebwyr, gwleidyddion a grwpiau eraill wedi bod yn gorymdeithio o amgylch Parc Kelvingrove cyn gorymdeithio drwy’r ddinas.
Yn Llundain, daeth ymgyrchwyr ynghyd ger adeilad Banc Lloegr cyn gorymdeithio drwy’r ddinas i Sgwâr Trafalgar, gyda Gwrthryfel Difodiant yn galw ar wleidyddion i “ddweud y gwir” am yr argyfwng hinsawdd.
Yn Iwerddon, daeth cannoedd o bobol ynghyd yng Ngerddi Coffa Dulyn ar gyfer un o’r prif ddigwyddiadau, tra bod ymgyrchwyr hefyd wedi ymgasglu yn Belffast ar gyfer yr orymdaith fwyaf yng Ngogledd Iwerddon ger Neuadd y Ddinas.