Fe fydd cynrychiolwyr ac ymgyrchwyr ieithoedd brodorol Ewrop yn dod ynghyd yn Santiago de Compostela yn Galicia ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 13).

Bydd Cynulliad Cyffredinol Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop yn dod ynghyd ar gyfer y digwyddiad sydd wedi’i drefnu gan y mudiad Mesa pola Normalización Lingüística (Mudiad ar gyfer Normaleiddio Ieithoedd).

Mae Rhwydwaith ELEN yn fudiad rhyngwladol sy’n hyrwyddo a gwarchod lles ieithoedd brodorol Ewrop. Mae’n cynrychioli 47 o ieithoedd a 168 o fudiadau o 24 o wledydd sy’n aelodau.

Bydd cyfle yn ystod y digwyddiad i drafod rhai materion allweddol sy’n effeithio ar aelodau’r Rhwydwaith, gan gynnwys y gyfraith clyweledol arfaethedig yn Sbaen, yr ymgyrch tros Ddeddf Iaith Wyddeleg newydd yn Iwerddon, Cyfraith Molac yn Llydaw a Ffrainc, yr argyfwng ail gartrefi mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol, Degawd Ieithoedd Brodorol UNESCO a materion sy’n effeithio ar Aeleg yr Alban.

Yn dilyn anerchiad gan Fernand de Varenne ar ran y Cenhedloedd Unedig, bydd yr Athro Vesna Crnić-Grotić o Bwyllgor Arbenigwyr Sbaen, yn gwneud cyflwyniad ac yn arwain trafodaeth gyda Dr Fernando Ramallo, cyn-Gynrychiolydd Sbaen ar Siartr Ieithoedd Lleiafrifol Ranbarthol Ewrop, ac Ana Miranda Paz, sy’n Aelod o Senedd Ewrop yn Galicia.

Yn ogystal, fe fydd etholiad ar gyfer Llywydd newydd yn cael ei gynnal, bydd y Pwyllgor Llywio newydd yn dod ynghyd, a bydd aelodau newydd yn cael eu croesawu i’r Rhwydwaith.

‘Cyfnod hanfodol ar gyfer normaleiddio’r Galiseg’

“Rydym wrth ein boddau fod A Mesa yn ein croesawu ni i Galicia, yn enwedig ar adeg pan fo’r ymgyrch barhaus ar gyfer normaleiddio’r Galiseg wedi cyrraedd cyfnod hanfodol,” meddai Davyth Hicks, Ysgrifennydd Cyffredinol Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop.

“Rydym hefyd yn dymuno diolch i Brifysgol Santiago a’r Museo do Pobo Galego am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth wrth gynnal y digwyddiad.”

Bydd Davyth Hicks ymhlith y siaradwyr mewn derbyniad arbennig ar y cyd â Phrifysgol Santiago nos Wener (Tachwedd 12), yn ogystal ag Antonio López (Rheithor Prifysgol Santiago de Compostela), Miguel Santalices (Llywydd Senedd Galicia), María do Pilar García Negro (Llywydd Ffederasiwn Diwylliant Galicia), María Dolores F. Galiño (Ombwdsmon Galicia), Davyth Hicks (ELEN) a Marcos Maceira (Llywydd A Mesa).

Ar ddiwedd y noson, bydd perfformiad arbennig gan Guadi Galego, un o gantorion cyfoes enwocaf Galicia.