Ar ddiwedd wythnos gyntaf uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26, ac ar ddiwrnod o weithredu byd-eang, mae un o’r siaradwyr wedi bod yn rhannu ei brofiadau â golwg360 o gymryd rhan yn y digwyddiad amgylcheddol byd-eang yn Glasgow.
Cafodd Joe Cooke, ymgyrchydd amgylcheddol 24 oed sy’n chwarae criced yn broffesiynol i Forgannwg, wahoddiad i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb am chwaraeon a newid hinsawdd yn yr uwchgynhadledd.
Ymddangosodd e ochr yn ochr â chyflwynydd Sky Sports Mike Wedderburn ar banel oedd yn cynnwys Russell Seymour, prif weithredwr Cymdeithas Chwaraeon Cynaladwy Prydain, ac Inga Ruehl, cyfarwyddwr gweithredol Gwasanaethau a Gweithrediadau Cynhyrchu Sky Sports.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn y parth gwyrdd, yr ardal sydd ar agor i’r cyhoedd, tra bod arweinwyr gwleidyddol rhai o wledydd mawr y byd yn ymgynnull yn ardal breifat y parth glas.
“Roedd hi’n wych cael bod yn rhan o’r digwyddiad COP26, ac yn sioc go iawn fod Sky Sports wedi gofyn i fi ei wneud e,” meddai wrth golwg360.
“Roedd hi’n fraint wirioneddol cael y cyfle i siarad gerbron cynifer o bobol hefyd, yn hollol wych.
“Roedd hi braidd yn rhyfedd hefyd, o gofio mai dim ond ers ychydig flynyddoedd dw i’n gricedwr proffesiynol, ond roedd hi’n anrhydedd cael cymryd rhan.
“Wrth gerdded o amgylch y parth gwyrdd [y parth cyhoeddus], roedd llawer o bobol yn trafod eu busnesau ac yn helpu pobol i wneud newidiadau yn eu bywydau eu hunain, felly roedd hynny’n beth cyffrous iawn.
“Mae’n ymddangos ei fod yn gyfnod cyffrous ar hyn o bryd i’r mudiad amgylchedol, a gobeithio y gall pethau mawr ddigwydd.
“Yn y parth gwyrdd roedd fy sesiwn holi ac ateb i, a hwnnw ar agor i’r cyhoedd, felly roedd llawer o bobol ifanc yno ynghyd â sefydliadau amrywiol sydd ynghlwm yn y mudiad amgylcheddol, felly roedd y parth hwnnw ychydig yn wahanol.
“Yn y parth glas mae’r holl arweinwyr byd, mewn parth ar wahân gyda llawer mwy o gynadleddwyr.
“Gobeithio bod y gynulleidfa wedi bod yn agored eu meddyliau, ac roedd hi’n wych gweld rhai o’r gynulleidfa’n dod am sgwrs wedyn.
“Roedd hi’n wych hefyd cael clywed pobol fel Russell Seymour ac Inga Ruehl yn siarad am eu harbenigedd tu ôl i’r llenni a gweithredu ar hynny, a dyna rydyn ni eisiau ei wneud ym Morgannwg. Roedd hi’n wych clywed y fath bobol yn siarad.”
Swydd newydd
Mae e newydd gael ei benodi i rôl Pencampwr Cynaladwyedd y sir, gyda’r cyfrifoldeb o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â newid hinsawdd a’r amgylchedd.
Ac yntau’n ymgyrchu gyda mudiadau amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear ac wedi cwlbhau traethawd estynedig ar griced a newid hinsawdd fel rhan o’i gwrs gradd mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Durham, mae ei swydd newydd yn golygu y bydd e’n ymgymryd ag adolygiad o weithrediadau’r clwb, gan greu strategaeth cynaladwyedd newydd a chydweithio â staff eraill yn y clwb i weithredu’r cynllun.
“Dim ond yn ddiweddar, dros y misoedd diwethaf, maen nhw wedi gofyn i fi helpu ond mae Morgannwg wedi bod yn gwneud tipyn ym maes cynaladwyedd ers sawl blwyddyn bellach,” meddai.
“Ond dydyn nhw erioed wedi cael rhywun yn gyfrifol am oruchwylio’r cyfan, felly maen nhw wedi gofyn i fi wneud hynny ar eu rhan nhw, sy’n wych ac yn destun cyffro mawr i fi.
“Rydyn ni am atgyfnerthu’r pethau rydyn ni wedi meddwl amdanyn nhw eisoes, a’u gwneud nhw ychydig yn well, a gweld hefyd a allwn ni dorri ein hôl troed carbon ac amgylcheddol.”
Mae’r byd criced yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ar raddfa eang erbyn hyn, gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn arwain ar y gwaith ar lefel ucha’r gamp, fel yr eglura Joe Cooke.
“Mae ganddyn nhw Bennaeth Cynaladwyedd newydd ac yn ei gymryd o ddifri, ac fe allwch chi weld hynny yn y rhaglen ddogfen [a gafodd ei darlledu ar Sky Sports yr wythnos hon], lle maen nhw’n trafod beth maen nhw’n ei wneud, ac mae’n wych gweld hynny.
“A dw i wedi gweld pethau ar-lein hefyd gan y siroedd criced eraill fod ganddyn nhw gynlluniau cynaladwyedd, ac mae’n wych gweld hynny hefyd, ac rydyn ni ym Morgannwg eisiau bod ar y blaen i’r gweddill fel y gallwn ni fod y goreuon yn ei wneud e.”
Forest Green Rovers ar flaen y gad
Does dim amheuaeth mai Clwb Pêl-droed Forest Green Rovers yn Swydd Gaerloyw sy’n arwain y ffordd o safbwynt materion amgylcheddol yn y byd chwaraeon, a hynny o ganlyniad i angerdd eu perchennog Dale Vince.
Ymhlith y camau maen nhw wedi’u cymryd mae gosod cae cwbl organig, paneli solar yn nho eisteddle’r stadiwm sy’n cynhyrchu 10% o drydan y stadiwm, a robot yn torri’r glaswellt gan ddefnyddio technoleg GPS.
Mae eu gwaith eisoes wedi arwain at sawl gwobr amgylcheddol, ac mae Joe Cooke yn gobeithio y gall Morgannwg eu dilyn wrth fod yn bencampwyr amgylcheddol.
“Mae [cydweithio â chlybiau mewn campau eraill] yn rhywbeth dw i eisiau ei wneud wrth i ni ddechrau ar ein gwaith,” meddai.
“Dw i a Dan Cherry [Pennaeth Gweithrediadau Clwb Criced Morgannwg] eisoes wedi trafod mynd a gofyn i glybiau eraill sydd wedi mynd gam ymhellach yn eu taith beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n ei wneud e, felly byddai’n wych pe baen ni’n gallu cysylltu â chlybiau fel Forest Green Rovers a siarad am eu gwaith nhw fel arweinwyr yn y maes yma, ac i weld a allwn ni ddefnyddio rhai o’u syniadau nhw.”
A’r clwb pêl-droed yn fwyaf adnabyddus am figaniaeth, rhan yn unig o’r frwydr yw hynny, yn ôl Joe Cooke.
“Mae newid ein ffordd o fyw yn bwysig, ond gall pobol fynd i boeni’n ormodol am newid eu ffordd o fyw fel eu bod nhw’n anghofio bod modd gwneud newidiadau mawr eraill,” meddai.
“Des i’n llysfwytawr ac roedd hi’n daith hir, gan fy mod i’n un o’r bobol hynny oedd yn cael cig gyda bron bob pryd bwyd ddwy neu dair blynedd yn ôl, ond dw i wedi ei dorri allan yn llwyr erbyn hyn.
“Dw i’n credu y gall unrhyw un ei wneud e, ac mae’n rhywbeth sy’n digwydd ym mhob man ac yn tyfu, ac mae’n haws nag erioed nawr.
“Dw i’n nabod llawer o gricedwyr ac athletwyr sydd eisoes yn llysfwytawyr neu’n figaniaid o ran eu diet, ond byddai’n wych gweld mwy o bobol yn dod allan a siarad amdano fe hefyd.
“Figan ydw i mewn sawl ffordd, ond dw i’n credu bod ei dorri fe allan yn llwyr yn anodd.”
Ond un sydd wedi llwyddo i wneud hynny yw Kiran Carlson, ei gyd-chwaraewr yn nhîm Morgannwg.
“Mae Kiran yn gwylltio gyda fi pan dw i’n bwyta caws!” meddai.
“Mae e’n mynd yn grac gyda fi o hyd, ond gobeithio y bydda i’n llwyddo i beidio yn y pen draw.”
Ffactorau sy’n effeithio criced
Fel y gwnaeth fideo yn ystod y digwyddiad ei ddangos, gall criced gael ei effeithio gan lifogydd, fel sy’n aml yn digwydd mewn llefydd ar lannau afonydd fel Caerwrangon, neu gan danau mawr mewn gwledydd fel Awstralia.
Yn ôl Joe Cooke, dylid pwysleisio’r peryglon hynny wrth bobol sy’n amheus am newid hinsawdd ac sy’n mynd i wylio criced, fel bod y pwnc yn gallu cael ei gyflwyno mewn modd sy’n gwneud synnwyr iddyn nhw ac sy’n ei osod mewn cyd-destun beunyddiol.
“Dw i’n credu bod rhaid cael elfen o’r math yna o negeseuon wrth i ni drafod y broblem hon, oherwydd pan fydd pobol yn gallu dod o hyd i berthynas bersonol â’r broblem, dyna pryd maen nhw fwyaf tebygol o weithredu,” meddai.
“Mae’n frawychus pan feddyliwch chi am y pethau hyn oherwydd maen nhw’n digwydd, ac mae gwir angen annog pobol i weithredu.
“Ond ar yr un pryd, dydych chi ddim eisiau llethu pobol gyda’r elfennau hynny, rydych chi eisiau ceisio aros yn bositif.”
Mae natur fyd-eang criced, gyda chynghreiriau o amgylch y byd sy’n talu’n sylweddol, yn ychwanegu at ôl carbon y gamp, meddai.
“Mae’n broblem sy’n anodd ei datrys oherwydd, fel y dywedodd Russell Seymour, y gamp fwyaf cynaladwy yw’r un nad yw’n cael ei chynnal, ond nid dyna rydyn ni ei eisiau, rydyn ni’n dal i fod eisiau i griced gael ei chwarae ledled y byd.
“Felly ar hyn o bryd, mae’n fater o geisio ei wneud e yn y ffordd fwyaf cynaladwy bosib ac ar yr un pryd, hybu newid mewn meysydd eraill fel bod y gymdeithas gyfan yn gallu newid a bod yn gwbl gynaladwy.”
Ai diwedd y gân yw’r geiniog, felly, ac a oes modd cynnig gwobrau ariannol i glybiau sy’n gweithredu ym maes newid hinsawdd?
“Hoffwn i weld hynny gan y pwerau uwch,” meddai.
“Byddai’n wych pe bai modd gwneud hynny, gan y byddai wir yn annog newid ac yn rhoi mwy o ysgogiad i glybiau ymrwymo’n ariannol eu hunain ac i weithredu ar y newidiadau sydd eu hangen.”
Sêr i atgyfnerthu’r neges?
Tra bod chwaraewyr fel Joe Cooke, sy’n gynnar iawn yn ei yrfa, yn ymgyrchu tros newid hinsawdd, does dim amheuaeth fod ymgyrchwyr amgylcheddol yn y byd chwaraeon yn awyddus i ddenu enwau mawr, byd-eang i hyrwyddo’r achos.
Ond a oes gan griced sêr digon mawr i wneud hynny?
“Mae rhai o’r enwau yn y byd criced yn enfawr,” meddai Joe Cooke.
“Mae ganddyn nhw ddilyniant da iawn ac maen nhw’n bobol ddylanwadol.
“Yn sicr, mae llawer o gricedwyr fyddai’n gallu cael cryn effaith a gwneud rhywbeth tebyg i Marcus Rashford [y pêl-droediwr] ac arwain newidiadau go iawn.
“Byddwn i wrth fy modd yn gweld rhywun yn gnweud hynny, ond does neb yn ei wneud e ar hyn o bryd, hyd y gwn i.
“Wedi dweud hynny, dw i wedi gweld Pat Cummins o Awstralia, dw i’n ei ddilyn e ar Instagram, ac mae e wedi bod yn cyhoeddi ambell neges am argyfwng yr hinsawdd.
“Mae e hefyd wedi llofnodi addewid yn Awstralia gyda llwyth o Awstraliaid eraill.
“Ond yma, yng Nghymru nac yn Lloegr, dw i ddim wedi clywed am unrhyw un yn ei wneud e, ond gobeithio y bydd hynny’n newid.”
Llwyfan i ledaenu’r neges?
Ond byddai angen llwyfan ar y sêr i’w wneud e hefyd – ai’r gystadleuaeth Can Pelen yw’r llwyfan hwnnw, ac yntau’n ceisio denu cynulleidfa newydd i’r byd criced?
“Dw i’n credu bod y Can Pelen yn llwyfan gwych i griced, ac roedd yn ymddangos fel digwyddiad gwych,” meddai.
“Daeth llawer o bobol ata’i yn Glasgow a dweud nad ydyn nhw wir yn dilyn criced, ond eu bod nhw wedi gwneud ers y Can Pelen.
“Felly mae’n wych bod llwyfan newydd ar gyfer criced, a byddwn i wir yn hoffi gweld negeseuon am yr hinsawdd yn rhan o’r Can Pelen, fel yr oedd yna ar gyfer cydraddoldeb cymdeithasol.”