Roedd buddugoliaeth fawr i dîm pêl-droed – eu cyntaf mewn 11 o gemau – wrth iddyn nhw guro Huddersfield o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Rhwydodd Kieffer Moore ddwywaith yn yr ail hanner i gipio triphwynt hollbwysig, a hynny yn dilyn gôl gynnar Huddersfield wrth i Daniel Sinani fanteisio ar gamgymeriad amddiffynnol yr Adar Gleision.
Neidiodd Moore yn uchel oddi ar gic gornel Joe Ralls i unioni’r sgôr ar ôl 74 munud, cyn sgorio unwaith eto yn yr amser a ganiateir am anafiadau i gipio’r triphwynt a buddugoliaeth gynta’r rheolwr dros dro, Steve Morison.
Cyn hyn, roedd yr Adar Gleision wedi colli chwe gêm gartref o’r bron yn y Bencampwriaeth.
Bournemouth 4-0 Abertawe
Roedd Abertawe’n disgwyl gêm anodd yn erbyn tîm Bournemouth sydd ar frig y Bencampwriaeth, ond prin y bydden nhw wedi disgwyl y fath grasfa.
Er i’r Elyrch ddominyddu’r meddiant yn gynnar yn y gêm, aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i Philip Billing groesi i lwybr Dominic Solanke, a hwnnw’n sgorio’i drydedd gôl ar ddeg y tymor hwn.
Daeth yr ail gôl gan Solanke hefyd, wrth iddo daro foli oddi ar groesiad Leif Davis i ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail hanner.
Daeth y cyfle am drydedd gôl i Ryan Christie, ond adlamodd ergyd hwnnw i Jaidon Anthony gael penio’r bêl i’r rhwyd i’w gwneud hi’n 3-0.
Cafodd Abertawe eu cosbi gan un o’u cyn-chwaraewyr unwaith eto, wrth i Jamal Lowe greu’r bedwaredd gôl i Anthony, ei ail o’r gêm.
Dyma’r ail grasfa yn olynol yn erbyn Bournemouth i Russell Martin, rheolwr Abertawe, gyda’i gêm olaf yn rheolwr ar MK Dons yn dod i ben gyda cholled drom o 5-0, ddiwrnod yn unig cyn iddo gael ei benodi gan Abertawe.
Harrogate 2-1 Wrecsam
Colli o 2-1 oedd hanes Wrecsam, er iddyn nhw fynd ar y blaen yn y gêm yng Nghwpan FA Lloegr.
Jordan Ponticelli rwydodd i’r tîm o Gymru, a hynny oddi ar groesiad Ben Tozer.
Ond tarodd y tîm cartref yn ôl drwy’r eilyddion Simon Power a Danilo Orsi, gyda’r ddwy gôl yn dod o fewn pum munud i’w gilydd.
Tarodd Power gic rydd bwerus i unioni’r sgôr, cyn i Orsi fanteisio ar bàs am yn ôl gan Luke Young a tharo’r bêl i’r gôl wag.
Tarodd Young chwip o foli i geisio unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm, ond arhosodd amddiffyn Harrogate yn gadarn i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Morecambe 1-0 Casnewydd
Roedd siom yn y gwpan i Gasnewydd hefyd, wrth iddyn nhw golli oddi cartref.
Cyn-chwaraewr Caerdydd, Aaron Wilding, dorrodd galonnau’r Alltudion wrth rwydo unig gôl y gêm, ac yntau wedi dod i’r cae yn eilydd i sgorio gôl syml.
Dyma’r tro cyntaf i’r ddau dîm ers i Morecambe ennill dyrchafiad yng ngêm derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.
Dyma’r tro cyntaf i Gasnewydd golli o dan reolaeth James Rowberry.