Mae tîm rygbi Cymru wedi colli o 23-18 yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Roedd tîm Wayne Pivac yn mynd am bumed buddugoliaeth gartref o’r bron yn erbyn pencampwyr y byd ac er eu bod nhw’n ddi-guro gartref yn erbyn y Springbok ers 2013, cafodd yr absenoldebau mawr effaith sylweddol ar berfformiad Cymru, gyda’r capten Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Ken Owens, Justin Tipuric a George North i gyd allan.
A doedd Ellis Jenkins, y blaenasgellwr, ddim wedi chwarae ar y llwyfan rhyngwladol ers tair blynedd.
Ond dechreuodd Cymru’n gadarn gyda chryn dipyn o feddiant yn gynnar yn y gêm, gyda Dan Biggar yn cicio a rhedeg yn gelfydd cyn i Louis Rees-Zammit weld ei ymdrechion i gyrraedd y llinell gais yn mynd yn ofer wrth i amddiffyn yr ymwelwyr aros yn gadarn.
Aeth Cymru ar y blaen ar ôl naw munud gyda Biggar yn cicio cic gosb, ond roedd y sgôr yn gyfartal 3-3 o fewn dim o dro wrth i Handre Pollard ymateb yn y glaw, gyda tho’r stadiwm ar agor oherwydd Covid.
Ciciodd Biggar ail gic gosb i roi Cymru ar y blaen eto, cyn i Damian Willemse, cefnwr De Affrica orfod gadael y cae am asesiad i’r pen.
Ciciodd Pollard ail gic gosb wedyn i unioni’r sgôr, 6-6, a bu’n rhaid i amddiffyn Cymru aros yn gadarn yn wyneb ymosodiadau De Affrica.
Daeth trydedd cic gosb i Biggar ar ôl 27 munud wrth i Dde Affrica gael rhybudd gan y dyfarnwr Paul Williams am droseddu parhaus, ac fe gollodd y dyfarnwr ei amynedd yn fuan wedyn wrth anfon y prop Ox Nche oddi ar y cae am ddeng munud am atal rhediad Nick Tompkins, a chiciodd Biggar bedwaredd cic gosb.
Er i Rhys Carre weld cerdyn melyn hefyd am drosedd dechnegol, roedd Cymru ar y blaen o 12-9 ar yr egwyl yn dilyn trydedd cic gosb Pollard i Dde Affrica.
Yr ail hanner
Bum munud wedi’r egwyl, newidiodd De Affrica eu rheng flaen yn llwyr, gyda Steven Kitshoff, Malcolm Marx a Vincent Koch i gyd yn dod i’r cae.
Roedd Cymru ar y droed ôl am gyfnod wedyn, ond wrth iddyn nhw lwyddo i ddianc, fe wnaethon nhw orfodi De Affrica i droseddu, a manteisiodd Biggar gyda thriphwynt arall o 45 metr.
Wrth i Dde Affrica ddal i ymosod, ciciodd Frans Steyn driphwynt arall o 52 metr.
Ond roedd Cymru ar y blaen eto o fewn dim o dro, gyda chweched cic gosb Biggar yn ei gwneud hi’n 18-15.
Roedd Cymru’n ymosod funud yn ddiweddarach, wrth i Liam Williams fylchu gan osgoi cefnogwr oedd wedi llwyddo i gyrraedd y cae – yr ail waith yn olynol i hynny ddigwydd ar gae Stadiwm Principality.
Doedd y cais ddim yn sicr o bell ffordd, ond fe roddodd gyfle i Dde Affrica wrthymosod eto, gan dorri i mewn i hanner Cymru o 70 metr, cyn i’r asgellwr Makazole Mapimpi yn gweld ei gais yn cael ei ganslo gan y dyfarnwr.
Croesodd Marx am gais hollbwysig saith munud cyn y diwedd wrth i Dde Affrica hyrddio drosodd o’r lein, ond methu â’r trosiad wnaeth Elton Jantjies, ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen o ddau bwynt.
Daeth un cyfle olaf i Gymru, ond De Affrica gafodd y gair olaf, gyda Jantjies yn cicio triphwynt arall i selio’r fuddugoliaeth.