Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes 78 oed farw mewn tân yng Nghoelbren yn ne Powys.

Fe ddigwyddodd ddydd Iau (Tachwedd 3).

Mae ei theulu wedi cael gwybod, ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn ymchwilio i achos y tân ar Heol Cefn Byrle, ac maen nhw’n dweud nad oes ganddyn nhw esboniad ar hyn o bryd.

Mae gofyn i bobol gadw draw o’r safle am y tro, ond dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.