Cafodd delwau o Dominic Cummings a Matt Hancock eu llosgi yn ystod dathliadau Noson Guto Ffowc yn Lewes yn Sussex neithiwr.

Bob blwyddyn ar Dachwedd 5 wrth i bobol ddod ynghyd yno, mae delwau o ddihirod y flwyddyn yn cael eu llosgi yn ystod y dathliadau.

Mae saith cymdeithas yn Lewes yn trefnu chwe digwyddiad bob blwyddyn.

Mae’r cyn-brif weinidog David Cameron, cyn-bennaeth awdurdod pêl-droed FIFA Sepp Blatter, a’r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson ymhlith y rhai fu’n destun delwau yn y gorffennol.

Ond delwau o gyn-Ysgrifennydd Iechyd San Steffan a chyn-brif ymgynghorydd y prif weinidog Boris Johnson gafodd eu llosgi neithiwr (nos Wener, Tachwedd 5), yn ogystal â Guto Ffowc a darlun o’r Pla.

Fe fu’r ddau yn y newyddion gryn dipyn eleni, Matt Hancock am ei berthynas â chydweithiwr yn ei swyddfa, a Dominic Cummings yn sgil ei sylwadau am y modd yr aeth Boris Johnson a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ati – neu beidio – i drechu Covid-19.

Yn sgil Covid-19, roedd gofyn i dorfeydd fynd i ddigwyddiadau bach lleol eleni yn hytrach na heidio i Lewes yn eu miloedd fel maen nhw’n arfer gwneud – gyda thorfeydd yn y gorffennol wedi cyrraedd 60,000.

Yn ôl y gwasanaethau brys, digon tawel oedd y digwyddiad eleni, er bod chwech o bobol wedi cael eu harestio, gan gynnwys un person wnaeth ymosod ar weithiwr brys.

A bu’n rhaid achub un person oedd wedi cwympo i’r afon.

Mae lle i gredu, er gwaetha’r rhybuddion i gadw draw, fod hyd at 30,000 o bobol yno.