Mae Matt Taylor, dyn tywydd y BBC, wedi syrthio ar ei fai ar ôl i’r enw “Caernarvon” ymddangos mewn graffeg ar y sgrîn yn ystod bwletin tywydd boreol.

Fe ddaeth y gwall i’r amlwg yn ystod bwletin BBC Breakfast ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 5), wrth i enw’r lle, wedi’i sillafu yn Saesneg, ymddangos ar y sgrîn ynghyd ag Oban, Thirsk, Birmingham, Worcester a Benson.

Wrth dynnu sylw ar Twitter at y gwall, dywedodd @tyhebenw fod ganddo “rybudd gwrth-Gymraeg” i’w rannu.

“Delwedd gan @BBCBreakfast fore heddiw,” meddai.

“Ai diffyg gofal a / neu anwybodaeth (esgeulus ac amhroffesiynol) yw hyn, neu bwriad i hybu agenda wrth-Gymraeg Torïaidd (sinistr)?

“Rhag ofn na allwch drafferthu gwirio, CAERNARFON yw e!”

Ymateb

Cafodd y neges ei ‘hoffi’ dros 100 o weithiau, a’i haildrydar 18 o weithiau.

Ymhlith y rhai wnaeth ymateb roedd Matt Taylor ei hun.

“Fy nghamgymeriad i’n llwyr oedd hwnnw,” meddai.

“Ro’n i wedi ei ysgrifennu ar fy nhaflen gydag ‘f’ ond yn amlwg, fe ges i eiliad esgeulus wrth i fi ruthro i gael y graffeg ynghyd mewn da bryd.

“Ôl-fflachiadau, efallai, i’m gwyliau yno’n blentyn.

“Cafodd y cyfan ei ddatrys yn gyflym. Diolch am gysylltu.”

Wrth ymateb eto, gofynnodd @tyhebenw, “Felly ydych chi’n rhoi’r graffeg ynghyd neu jyst yn rhoi’r wybodaeth i ‘tech whizz’ i’w wneud e drosoch chi?”

“Rhaid i ni ei wneud e i gyd ein hunain – band un dyn ydw i yn y bore,” meddai’r dyn tywydd wrth ateb.