Mae cwest wedi penderfynu bod swyddogion mewnfudo wedi cyfrannu at farwolaeth ceisiwr lloches yng Nghasnewydd.

Aeth y swyddogion i safle busnes golchi ceir a chwrso Mustafa Dawood cyn iddo gwympo trwy do plastig a chael anafiadau difrifol i’w ben.

Roedd y dyn 23 oed wedi dod i Gymru o Swdan rhag iddo gael ei erlid, ond fe gafodd ei gais am loches ei wrthod gan y Swyddfa Gartref.

Pan aeth swyddogion i’r safle ar Fehefin 30, 2018 i roi gorchymyn iddo, roedd e’n credu ar gam ei fod e am gael ei arestio ac fe geisiodd ddianc, gan ddringo ar ben to trwy ddrws metel.

Cymerodd hi dair awr i’r rheithgor ddod i benderfyniad fod gweithredoedd y swyddogion wedi cyfrannu at ei farwolaeth gan na ddylai’r swyddogion fod wedi parhau i’w gwrso.

Doedd y penderfyniad i ddod â’r cwrso i ben ddim wedi cyrraedd yr holl swyddogion, ac roedd un swyddog yn dal i ddal ei bastwn, ac roedd y ddau beth wedi cyfrannu at ei farwolaeth, meddai’r rheithgor.

Dywedon nhw hefyd nad oedd y swyddogion wedi’u hyfforddi i ymdrin â’r sefyllfa, a bod hynny hefyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Dywed y crwner Caroline Saunders ei bod hi am ysgrifennu at y Swyddfa Cartref gyda chyfres o argymhellion i wella hyfforddiant ar gyfer swyddogion sy’n cwrso pobol.

Talodd y crwner deyrnged i’w deulu hefyd.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu eisoes wedi dweud na allai’r heddlu fod wedi darogan yr hyn a fyddai’n digwydd wrth iddyn nhw ei gwrso, ac maen nhw hefyd wedi cyflwyno cyfres o argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Mae’r rhain yn cynnwys gorfodi swyddogion mewnfudo i wisgo camerâu ar eu cyrff a chadw cofnod radio o’u gweithgarwch.