Mae Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi awgrymu y gallai Llafur fod yn barod i ystyried annibyniaeth.

Wrth siarad gyda’r wefan newyddion Express.co.uk, broliodd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r pandemig, gan ddweud bod yr argyfwng wedi arwain at gynnydd mewn cefnogaeth i annibyniaeth.

Ychwanegodd fod diffyg undod ymhlith llywodraethau’r Deyrnas Unedig yn “boen” i Boris Johnson.

“Dydyn nhw (Llywodraeth y Deyrnas Unedig) ddim wedi ein trin ni’n dda yn ystod y pandemig ac wrth gwrs, mae’r pandemig wedi sbarduno’r drwg deimlad yna,” meddai.

“O’i gymharu â’r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi delio â’r pandemig – maen nhw wedi delio ag ef yn llawer gwell na Llywodraeth San Steffan.

“Yn sicr, dyna’r teimlad ymhlith llawer o bobol yng Nghymru.

“Wel, rwy’n siŵr nad oedd neb yn Lloegr wedi clywed am Mark Drakeford cyn Covid, doedd e ddim mor adnabyddus â hynny yng Nghymru.

“Ond nawr, mae rhai polau piniwn yn dweud bod pobol yn ei adnabod yn well na Boris Johnson hyd yn oed, dyw hynny erioed wedi bod yn wir o’r blaen yn hanes datganoli yng Nghymru.”

‘Gwlad gryfach’

Byddai economi Cymru hefyd yn gryfach pe bai’n wlad annibynnol, yn ôl Rhys ab Owen.

“Rwyf wir yn credu y byddai Cymru’n wlad gryfach, rwyf wir yn credu y byddai’n well i bobol Cymru pe baem yn annibynnol,” meddai.

“Nawr byddai llawer o bobl yn dweud, ‘rydych chi’n rhy dlawd i fod yn annibynnol’. Dydw i ddim yn credu hynny.

“Dw i’n derbyn efallai nad yw ein heconomi’n gryf iawn, ond mae llawer o hynny’n ymwneud â’r ffaith ein bod yn cael ein llywodraethu o San Steffan.

“Ar y gorau, mae Cymru’n droednodyn yng nghynlluniau San Steffan, rydyn ni’n cael ein hanghofio i raddau helaeth, rydyn ni’n cael ein hanwybyddu i raddau helaeth.

“Felly, rwy’n credu y byddai pethau sy’n cael eu penderfynu yng Nghymru ar gyfer pobol Cymru yn gwella bywydau pobol yng Nghymru.”