Bydd Cyngor Sir y Fflint yn adolygu eu cynllun ar gyfer trethu ail gartrefi.

Fel rhan o broses i adolygu eu cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag hirdymor, mae’r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad â’r cyhoedd.

Cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint bremiwm lleol yn 2017, ac ers hynny, mae premiwm treth y cyngor o 50% wedi cael ei godi ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn y sir.

Ar hyn o bryd, mae gan gynghorau bwerau i godi neu amrywio premiwm treth y cyngor hyd at 100% ar ben y dreth cyngor arferol ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyngor Sir Benfro bleidleisio i gynyddu trethi ar ail gartrefi, gan ddyblu’r dreth i 100%.

Mae cynghorau Gwynedd ac Abertawe eisoes wedi cynyddu’r dreth ychwanegol i 100% wrth ymateb i bryderon yn eu siroedd nhw yn sgil yr argyfwng tai.

‘Gwella cynaliadwyedd’

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, fod y gallu i godi premiwm y dreth yn “offeryn” i “wella cynaliadwyedd” cymunedau.

“Mae’r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol i godi premiwm gyda’r bwriad o fod yn offer i helpu awdurdodau lleol i ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i roi cartrefi diogel, saff a fforddiadwy ac i wella cynaliadwyedd ein cymunedau lleol,” meddai.

“Fel rhan o’r broses o adolygu’r cynllun, rydym wedi ymrwymo i roi’r cyfle i’r cyhoedd ehangach i gael mynegi eu barn ar sut ddylai unrhyw gynllun premiwm treth y cyngor diwygiedig yn y dyfodol weithio.”

Gall preswylwyr Sir y Fflint gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy lenwi holiadur byr ar-lein, fydd ar agor nes 5yh ar Ragfyr 6.

Sir Benfro yn dyblu’r dreth ar ail gartrefi

Cynghorwyr Sir Benfro yn dilyn esiampl cynghorwyr Gwynedd ac Abertawe