Mae ymosodwr brawychol a laddodd 51 o addolwyr mewn dau fosg yn Christchurch yn Seland Newydd, gan ffrydio’r cyfan yn fyw ar Facebook, yn bwriadu apelio yn erbyn dedfryd o oes o garchar.

Yn ôl cyfreithwyr Brenton Tarrant mewn llythyr at brif grwner Seland Newydd, cafodd ei drin yn annynol ac yn israddol yn y carchar, ac fe gafodd ei orfodi i bledio’n euog.

Fe wnaeth y gŵr sy’n hanu o Awstralia ffrydio’r digwyddiad yn fyw ar Facebook yn 2019.

Dyma’r ymosodiad gwaethaf yn hanes y wlad, ac fe arweiniodd at wahardd yr arfau mwyaf dinistriol.

Cyn dechrau’r achos llys, fe blediodd yn euog i’r holl gyhuddiadau, gan gynnwys 51 llofruddiaeth, 40 achos o geisio llofruddio ac un achos o frawychiaeth.

Cafodd oes o garchar heb y posibilrwydd o barôl, sef y ddedfryd fwyaf llym oedd ar gael i’r barnwr.

Yn ôl ei gyfreithwyr, mae e wedi colli ei hawliau dynol yn y carchar wrth gael ei gadw ar ei ben ei hun wrth aros i’r achos llys ddechrau, a phrin oedd ei fynediad at gyfreithiwr, gwybodaeth a dogfennau ynghylch ei achos.

Penderfynodd mai’r ffordd orau i ymdrin â’r sefyllfa oedd pledio’n euog, meddai.

Fis diwethaf, agorodd y prif grwner ymchwiliad i farwolaethau’r 51 o bobol.