Yn dilyn eu buddugoliaeth o 3-1 dros Benybont yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Cymru Premier ddydd Sadwrn (Mai 18), bydd Clwb Pêl-droed Caernarfon yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf.
Fe enillodd y Cofis wedi i Louis Lloyd, Zack Clarke a Sion Bradley sgorio yn yr hanner cyntaf.
Mae eu buddugoliaeth yn golygu bod y tîm wedi hawlio’u lle yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa, ac y byddan nhw’n derbyn hwb ariannol o bron i £200,000.
Dyma rai o luniau Cymdeithas Bêl-droed Cymru i chi gael ail-fyw’r diwrnod…
Ffans Caernarfon yn dechrau cyrraedd Yr Oval
Lewis Harling o Benybont cyn i’r ornest ddechrau
Caernarfon yn dathlu eu gôl gyntaf gan Louis Lloyd ar ôl 21 munud
Zack Clarke o Gaernarfon yn sgorio cic o’r smotyn 27 munud i mewn i’r hanner cyntaf
Ail ddathliad i’r Cofis
Dathlu trydedd gôl, gan Siôn Bradley, cyn diwedd yr ail hanner
Penybont yn dechrau sylweddoli eu tynged
Daliodd Penybont ati i herio Caernarfon tan y funud olaf, ond y Cofis aeth â hi
Zack Clarke yn dathlu cymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewrop
Siôn Bradley, sydd wedi chwarae i Gaernarfon ers saith mlynedd, yn mwynhau llwyddiant ei dîm
Gruff John yn dathlu a chofleidio’i frawd
Richard Davies, rheolwr Caernarfon, oedd yn amlwg wedi gwirioni gyda’r canlyniad