Mae chwe llwybr beicio newydd wedi agor mewn canolfan sydd wedi bod dan fygythiad yn ddiweddar.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal i drafod dyfodol canolfan beicio mynydd Coed y Brenin ger Dolgellau, ynghyd â’u canolfannau eraill.

Ceisio arbed arian yw nod adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roedd disgwyl iddyn nhw wneud penderfyniad erbyn diwedd mis Mawrth.

Fodd bynnag, mae camau eraill i arbed arian wedi rhoi mwy o amser iddyn nhw ystyried eu blaenoriaethau – ac mae’r adolygiad i’w canolfannau ymwelwyr, sy’n cynnwys un yn Ynyslas ger Aberystwyth a Bwlch Nant yr Arian ger Ponterwyd, yn rhan o hynny.

“Cyffrous” cynnig chwe llwybr newydd

Coed y Brenin oedd canolfan beicio mynydd gyntaf gwledydd Prydain pan agorodd yn 1996, a serch yr adolygiad bydd chwe llwybr antur newydd yn agor yno ddydd Sadwrn (Mai 25).

Mae’r llwybrau wedi’u henwi ar ôl chwedlau o Gymru, ac maen nhw’n amrywio o ran eu pellter, o 9km i 55km.

“Rydym yn gyffrous i gynnig chwe llwybr beicio newydd i’n hymwelwyr,” meddai Andy Braund, Ceidwad Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Beicio a Beicio Mynydd yn y gogledd-orllewin.

“Drwy roi arwyddion ar ein rhwydwaith bresennol o ffyrdd coedwig, llwybrau ceffylau a ffyrdd caniatâd i greu llwybrau hawdd i’w dilyn, rydym wedi creu arlwy i ystod eang o ymwelwyr a thrigolion lleol allu ei fwynhau.

“Mae’r llwybrau newydd hyn yn addas ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno cael picnic ger yr afon, beicwyr hamdden, yn ogystal â beicwyr graean mwy anturus.

“Bydd yn eu galluogi i archwilio un o’r coedwigoedd harddaf ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda golygfeydd hyfryd o’r mynyddoedd cyfagos, ac mae’n llawn gweithfeydd mwyngloddio hanesyddol a hen ffermydd.”

‘Ergyd’

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yng Nganllwyd, y pentref agosaf i Goed y Brenin, fis Chwefror er mwyn trafod dyfodol y ganolfan.

Bryd hynny, dywedodd Delyth Lloyd Griffiths, Cynghorydd Ganllwyd, y byddai cau’r ganolfan yn ergyd i ymwelwyr a’r gymuned.

“Mae angen i bobl ddeall mai ychydig iawn o gyfleoedd cyflogaeth sydd gan ardal wledig, gyda’r rhan fwyaf o’n trigolion yn hunangyflogedig ac yn gweithio’n galed mewn busnesau bach iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae cael adnodd fel Coed y Brenin ar agor gydol y flwyddyn yn cynnig gwasanaeth sy’n cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol gyda llwybrau beicio mynydd, cerdded a rhedeg yn hollbwysig i’r ardal hon.”

‘Cyllid cyhoeddus yn dynn’

Wrth roi diweddariad ar y sefyllfa, dywed Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod nhw’n gorfod edrych ar eu holl ddarpariaethau er mwyn arbed arian.

“Mae cyllid cyhoeddus yn dynn ofnadwy o amgylch y Deyrnas Unedig i gyd,” meddai Elsie Grace.

“Felly, rydyn ni’n gorfod edrych ar ein holl ddarpariaeth ac adolygu’r hyn fedrwn ni ac y mae’n rhaid i ni barhau i’w wneud, beth rydyn ni’n dod i ben, a beth i’w arafu neu ei wneud yn wahanol er mwyn cyflawni amcanion ein Cynllun Corfforaethol.

“Rydyn ni wedi cymryd camau sylweddol i leihau’r pwysau ariannol yn barod, fel rheolau tynnach wrth recriwtio a lleihau ein defnydd o asiantaethau a chytundebau dros dro.

“Mae hyn wedi rhoi mwy o amser i’r Bwrdd a’r tîm Gweithredu i ystyried ein blaenoriaethau ac mae ein hadolygiad i’r canolfannau ymwelwyr yn rhan o’r gwaith ehangach hwn, ac i gytuno ar hyn gyda Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n parhau i drafod modelau darparu amgen gyda’n partneriaeth ar gyfer y tymor hir.”

Cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol Coed y Brenin

Lowri Larsen

Mae dyfodol canolfan beicio mynydd gyntaf Cymru yn y fantol