Bydd rhanbarth rygbi’r Gweilch yn dewis rhwng Cae’r Bragdy a San Helen wrth iddyn nhw baratoi i symud i gartref newydd.

Ers tro, mae’r rhanbarth yn teimlo bod eu cartref yn Stadiwm Swansea.com, sydd hefyd yn gartref i Glwb Pêl-droed Abertawe, bellach yn rhy fawr iddyn nhw.

Byddan nhw nawr yn dewis rhwng cartrefi clybiau Abertawe a Phen-y-bont ar gyfer y bennod nesaf yn eu hanes.

Dywed y rhanbarth eu bod nhw bellach yn trafod y posibiliadau â’r cynghorau perthnasol, gyda’r ddau gae “yn cynnig manteision unigryw ar gyfer dyfodol y Gweilch”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi dod i’r penderfyniad yn dilyn “trafodaethau eang” a “gwerthusiadau trylwyr o ddichonolrwydd, hygyrchedd a photensial i dyfu” yn y ddau leoliad.

Ond byddai angen gwaith ailddatblygu’r naill gae a’r llall cyn y byddai modd sefydlu un ohonyn nhw’n gartref parhaol.

Byddan nhw’n aros yn eu cartref presennol ar gyfer tymor 2024-25, a’r gobaith yw y byddai’r cartref newydd yn barod i symud iddo cyn tymor 2025-26.

Yn ôl Lance Bradley, Prif Weithredwr y Gweilch, maen nhw’n “hyderus y byddai’r naill ddewis a’r llall yn fwy nag addas fel cartref newydd”.

Mae e hefyd wedi canmol y ddau Gyngor am fod yn barod i gydweithio er lles y rhanbarth rygbi a’r gymuned yn ehangach, gan ddweud y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Caeau’r Gweilch

Mae’n debyg fod penaethiaid Cyngor Abertawe’n awyddus i’r Gweilch chwarae ar gae San Helen.

Mae’r cae dan berchnogaeth y Cyngor, ond byddai angen buddsoddiad sylweddol yn y cae ac er nad oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud, byddai’n golygu na fyddai gobaith i griced sirol gael ei gynnal ar y cae eto ar ôl 149 mlynedd o gemau Morgannwg yno.

Yn ôl Rob Stewart, mae’r Cyngor yn barod i gydweithio â’r Gweilch, gan ddweud eu bod nhw’n “gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r Gweilch i aros yn Abertawe”, ac yn “cydweithio â’r holl randdeiliaid chwaraeon i ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf iddyn nhw”.

Cyhoeddodd Lance Bradley ym mis Ionawr y bydd y Gweilch yn gadael Stadiwm Swansea.com, sy’n gallu cynnal 20,000 o gefnogwyr, ac yn symud i gae llai o faint.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth cadarnhad gan Glwb Rygbi Castell-nedd na fyddai’r cartref newydd hwnnw’n cael ei sefydlu ar y Gnoll.

Daw’r cyhoeddiad ynghylch San Helen wythnos ar ôl i Gabinet Cyngor Abertawe drafod adroddiad ynghylch dyfodol y cae ar lan y môr, a hynny mewn sesiwn y tu ôl i ddrysau caeëdig.

Dydy manylion y cyfarfod ddim wedi cael eu datgelu hyd yma, ond mae arweinwyr fel Rob Stewart bellach wedi cyhoeddi eu bwriad.

Yn ôl y Cyngor, byddai’r opsiwn i sefydlu cartref y Gweilch ar gae San Helen yn golygu y byddai’n dod yn stadiwm rygbi yn unig, gydag Abertawe a Phrifysgol Abertawe’n ei defnyddio.

Byddai’n cael ei hailddatblygu dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, gan gynyddu’r capasiti a gwella profiadau’r chwaraewyr ac ymwelwyr.

Dydy’r cynnig ddim yn cynnwys tir y Rec drws nesaf, ac mae’r Cyngor yn dweud y bydden nhw’n dymuno gweld Clwb Criced Abertawe, fu’n chwarae ar gae San Helen ers 1875, yn cael eu symud drwy gytundeb i leoliad arall.

Mae San Helen yn gartref i Glwb Rygbi Abertawe ers 1876, gyda thimau rhyngwladol wedi chwarae yno hefyd tan 1954, gan ddenu torfeydd o hyd at 50,000 o bobol. Mae Abertawe wedi curo Awstralia, Seland Newydd a De Affrica yno dros y blynyddoedd, gyda phlac glas bellach yn cofio’r buddugoliaethau hynny.

Mae llu o sêr Cymru wedi chwarae i Abertawe dros y blynyddoedd, ac fe wnaethon nhw orffen yn ddegfed yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor hwn.

Dim rhagor o griced

Ond mae’r newyddion yn ergyd i ddyfodol criced yn San Helen, gyda Chlwb Criced Abertawe’n dathlu 150 mlynedd y flwyddyn nesaf ers ei sefydlu.

Dywed Mike Hayden, cadeirydd y clwb, y byddai gadael y cae yn brofiad “emosiynol”, ond fod “y darlun mawr” tu hwnt i’w rheolaeth nhw.

Mae gan y clwb dair adran gyda thimau sy’n chwarae ar ddydd Sadwrn – un yn Adran Gyntaf Uwch Gynghrair Criced De Cymru, tîm menywod, a phedwar tîm ieuenctid rhwng unarddeg a 17 oed, ynghyd â rhaglenni hyfforddiant ar gyfer denu plant pump i unarddeg oed.

Dywed Mike Hayden fod y clwb yn awyddus i gael eu trin yn deg yn ystod y broses.

Fe fu San Helen hefyd yn gartref ysbrydol Clwb Criced Morgannwg ers iddyn nhw ennill statws sirol dosbarth cyntaf yn 1921.

Ymhlith y gemau mawr ar y cae hwn dros y blynyddoedd mae ymweliad Awstralia a Don Bradman yn 1948, buddugoliaeth dros Dde Affrica yn 1951, a’r ‘chwech chwech’ hanesyddol gan Garry Sobers oddi ar fowlio Malcolm Nash i Swydd Nottingham yn erbyn Morgannwg yn 1968.

Ers i Forgannwg symud yn barhaol i Erddi Sophia yng Nghaerdydd yn 2019, mae gemau achlysurol wedi’u cynnal yn San Helen, ond daeth pryderon i’r amlwg yn ystod cyfnod Covid yn sgil cyflwr y cae ac na fyddai’n bodloni’r gofynion.

Bu Morgannwg yn chwarae ar gae’r Gnoll ers 2022, a byddan nhw’n dychwelyd yno eto y tymor hwn.

Ers 1972, fe fu Orielwyr San Helen, dan arweiniad y cadeirydd John Williams, yn codi miloedd o bunnoedd bob tymor er mwyn sicrhau dyfodol criced sirol ar y cae am flynyddoedd i ddod.

Mae’r sefyllfa’n destun “tristwch” mawr i John Williams.

“Mae’n sefyllfa drist iawn,” meddai.

“Mae hanes Morgannwg wedi’i wreiddio’n ddwf yn nhir San Helen.”

Ymhlith ei brif atgofion dros y blynyddoedd mae curo Awstralia yn 1964 a 1968, buddugoliaethau dros Essex a Middlesex wrth enill Pencampwriaeth y Siroedd yn 1969, a 201 heb fod allan gan Clive Lloyd, capten India’r Gorllewin, yn 1976.

Dywed ei fod yn gefnogwr brwd o dîm rygbi Abertawe yn San Helen cyn dyfodiad rygbi rhanbarthol yn 2003, a’i fod yn gobeithio y byddai’r Gweilch yn llwyddiannus pe baen nhw’n symud i’r cae.

Yn ôl Dan Cherry, Prif Weithredwr Morgannwg, byddai’n “wych gweld chwaraeon ar y lefel uchaf yn cael ei chwarae’n rheolaidd eto yn San Helen”.

“Mae’n drist clywed y gallai criced ddod i ben yno, a gobeithio y byddai Clwb Criced Abertawe’n cael eu symud yn llwyddiannus er mwyn cael parhau a gwarchod treftadaeth griced gyfoethog yr ardal honno,” meddai.

“Mae’r clwb a’n cefnogwyr wedi bod yn siomedig nad yw Morgannwg bellach yn gallu chwarae yn San Helen, yn enwedig o gofio ein traddodiad a’n hanes ar y cae, a chefnogaeth hirdymor Orielwyr San Helen.

“Fodd bynnag, mae bwrdd Clwb Criced Morgannwg wedi ymrwymo i archwilio’r potensial o sefydlu canolfan ragoriaeth yng ngorllewin Cymru, fel ein bod ni’n gallu cefnogi twf a datblygiad criced yno, o lwybrau datblygu chwaraewyr hyd at y gêm broffesiynol i ddynion a menywod.”

Pen-y-bont

Dywed Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr y byddai symud y Gweilch i Gae’r Bragdy, oedd wedi croesawu Rygbi Caerdydd a Sale y tymor hwn, o fudd i’r dref ac i’r clwb lleol.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “llwyr gefnogol” o’r cynllun i symud yno, ac yn “edrych ymlaen at drafodaethau pellach” ynghylch yr “hwb economaidd enfawr” i’r dref.

Ymateb cefnogwyr y Gweilch

Yn ôl Clwb Cefnogwyr y Gweilch, maen nhw’n deall fod rhaid i’r rhanbarth wneud y penderfyniad cywir.

“Rydyn ni wedi gweld sut y gall cae llai o faint greu awyrgylch gwell, ac rydym yn deall fod yn rhaid i’r penderfyniad hwn fod yn iawn i’r rhanbarth yn nhermau cynaliadwyedd hirdymor,” meddai’r cadeirydd Sarah Collins-Davies.

“Rydym hefyd yn deall cymhlethdodau’r fath symudiad.

“Rydyn ni jest yn teimlo y bydd pa bynnag benderfyniad sy’n cael ei wneud yn un cyffrous i ni fel clwb cefnogwyr, ac y bydd yn arwydd o gyfnod newydd.”