Swydd Gaerlŷr v Morgannwg: y glaw yn dod â’r ornest i ben

Y glaw wedi tarfu ar y diwrnod olaf yn Grace Road

Colin Ingramgolwg360

Colin Ingram yn sgorio canred yn erbyn Swydd Gaerwrangon

Sgorfwrdd

Mae Colin Ingram, y seren o Dde Affrica, wedi’i hepgor o garfan griced Morgannwg ar gyfer y daith i Swydd Gaerlŷr, gyda’r gêm Bencampwriaeth yn dechrau heddiw (dydd Gwener, Mai 24).

Mae gan Forgannwg dri chwaraewr tramor – Ingram, Mir Hamza a Marnus Labuschagne – ond dim ond dau sy’n cael bod yn y garfan ar gyfer pob gêm.

Un sy’n dychwelyd i’r garfan yw’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten, ar ôl i’r Iseldirwr wella o anaf.

Gemau’r gorffennol

Cipiodd Timm van der Gugten chwe wiced am 88 yn y gêm yn Grace Road y llynedd, cyn i Chris Cooke a Michael Neser adeiladu Partneriaeth o 211 am yr wythfed wiced i sicrhau gêm gyfartal.

Enillodd Morgannwg o fatiad a 28 rhediad yn 2022, ar ddiwedd hornets hanesyddol ar ôl i Sam Northeast chwalu record y sir am y sgôr unigol gorau erioed (410 heb fod allan).

Adeiladodd Northeast a Cooke record o bartneriaeth o 461 wrth i Forgannwg gyrraedd 795 am bump cyn cau eu batiad.

Roedden nhw ar y blaen o 211 rhediad, felly, gyda dwy sesiwn yn weddill, ond cawson nhw eu bowlio allan o fewn 59 pelawd, gyda’r bowlwyr cyflym Michael Hogan a Michael Neser ar dân.

Carfan Swydd Gaerlŷr: B Cox, S Currie, P Handscomb, M Harris, L Hill, I Holland, J Hull, L Kimber, B Mike, R Patel, M Salisbury, T Scriven, H Seinfeld

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, E Byrom, C Cooke, M Crane, A Gorvin, J Harris, Mir Hamza, M Labuschagne, J McIlroy, B Root, Zain ul Hassan, T van der Gugten

17:29

“Doedd hi ddim yn ymddangos fel bod canlyniad positif i’w gael i ni, felly roedd angen i ni fatio drwy’r dydd heddiw a chael gêm gyfartal,” meddai Sam Northeast, capten Morgannwg.

“Mae’r llain yn eithaf da a’r maes yn eithaf cyflym, felly byddai wedi bod yn dipyn o dasg anodd i ni eu bowlio nhw allan eto, yn enwedig heb Mir Hamza yn ein hymosod.

“Mae hi wedi bod yn llain ryfedd. Roedd llawer o laswellt ar y dechrau, oedd wedi helpu’r bowlwyr, ond fel maen nhw wedi gwneud drwy’r tymor, mae’r peiriannau rholio trwm wedi cael effaith fawr ar y gêm. Mae’n debyg fod pedwar rholiwr trwm yn y gêm wedi lladd y llain, ac roedd hi’n araf ac yn isel yn y pen draw. Efallai ei bod hi’n bryd edrych ar hynny eto.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi chwarae’n dda am gyfnodau yn ystod hanner cynta’r tymor. Roedd methu â chroesi’r llinell yn y gêm ddiwethaf pan wnaethon ni ddim chwarae cystal ag y gallwn ni yn destun siom, ond ar wahân i hynny rydyn ni wedi chwarae criced da am gyfnodau. Mae eithaf tipyn o gemau i ddod, ac rydyn ni eisiau gwthio ein ffordd i fyny’r tabl.

“Mae nifer o bethau positif; er, bydd rhaid i ni fyfyrio a datrys beth sydd angen i ni ei wneud i ennill gemau o griced.”

16:16

CANLYNIAD

Gêm gyfartal, ar ôl i’r glaw orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae am y tro olaf.

15:48

DIWEDDARIAD

Glaw wedi amharu ar y diwrnod olaf. Morgannwg 147 am bedair, ar y blaen o 191 gyda 39 pelawd yn weddill. Gêm gyfartal braidd yn anochel bellach.

13:29

CINIO, DIWRNOD 4

Morgannwg 84 am dair, ar y blaen o 128 gydag o leiaf 66 pelawd yn weddill yn yr ornest.

11:07

DIWRNOD 4

Wyth pelen yn unig yn bosib cyn i’r glaw ddod.

18:30

DIWEDD, Diwrnod 3.

Morgannwg 14 am un, ar y blaen o 58 rhediad.

16:11

TE

Morgannwg pump am un yn eu hail fatiad, ar y blaen o 49 rhediad. Billy Root allan.

15:47

Swydd Gaerlŷr wedi cau eu batiad cyntaf ar 343 am naw. Blaenoriaeth batiad cyntaf o 44 rhediad gan Forgannwg, felly. Pum wiced i Timm van der Gugten.

13:03

CINIO, DIWRNOD 3

Swydd Gaerlŷr 300 am chwech, ar ei hôl hi o 87 rhediad.

Peter Handscomb 103.

18:34

DIWEDD 

Swydd Gaerlŷr 280 am bump, ar ei hôl hi o 107.

Peter Handscomb 102 heb fod allan. Lewis Hill allan am 92.