Mae Clwb Pêl-droed Nottingham Forest wedi cyhoeddi ymadawiad y golwr Wayne Hennessey.

Mae cytundeb y Cymro 37 oed yn dod i ben yn yr haf.

Ymunodd e â’r clwb pan oedden nhw o dan reolaeth Steve Cooper, a newydd ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Treuliodd e ddwy flynedd gyda’r clwb, gan chwarae pedair gwaith yn unig.

Ond roedd e’n cael ei ystyried yn aelod allweddol o’r garfan ymhlith y golwyr yn ystod cyfnod Steve Cooper wrth y llyw.

Llwyddodd y clwb i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor, ond bydd y golwr bellach ar gael yn rhad ac am ddim i glybiau eraill.