Gwilym Roberts o Gaerdydd yw enillydd Tlws Coffa Aled Roberts.

Daeth y cyhoeddiad yng nghynhadledd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno er cof am Aled Roberts, y gwleidydd a chyn-Gomisiynydd y Gymraeg, i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.

Cafodd Gwilym Roberts ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, a bu’n athro Cymraeg mewn tair ysgol gynradd yn y ddinas am 31 o flynyddoedd cyn ymddeol yn gynnar a mynd i ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia yn wirfoddol.

Dros y blynyddoedd, mae wedi rhoi gwersi Cymraeg i bobol ifanc chweched dosbarth ardal Caerdydd, ac yn diwtor ar gyrsiau penwythnos Grŵp Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith, oll yn wirfoddol.

‘Ysbrydoliaeth’

Anne Utuska oedd wedi ei enwebu ar gyfer y tlws.

“Mae Gwilym wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi – ac i lawer o bobol eraill,” meddai.

“Roedd yn arfer cynnal dosbarth Cymraeg cyn Aelwyd yr Urdd, i bobol ifanc chweched dosbarth oedd ddim yn rhugl ar y pryd.

“Roeddem ni wedyn yn gallu ymuno yn yr aelwyd yn syth ar ôl y dosbarth pan fyddai’r siaradwyr Cymraeg yn cyrraedd.

“Gwilym oedd yn gofalu amdanom yn ystod y gweithgareddau gan roi cymorth i ni ddefnyddio ac ymestyn ein hiaith.

“Aeth nifer ohonom ymlaen i wneud ein hastudiaethau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Heb gyfraniad Gwilym a’r gwirfoddolwyr eraill, ni fyddai hynny wedi gallu digwydd.”

Roedd Gwilym Roberts hefyd yn diwtor ar gyrsiau penwythnos Grŵp Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith am nifer o flynyddoedd, a byddai’n dod â nifer o diwtoriaid eraill gydag e i sicrhau llwyddiant y cyrsiau.

“Heb ei weledigaeth ef, ni fyddai bri ar yr iaith Gymraeg fel sydd yn awr – nid yn unig yng Nghaerdydd, ond mor bell â Phatagonia lle bu cyfraniad Gwilym (yn wirfoddol unwaith eto) yn allweddol i adfywiad y Gymraeg yn y Wladfa,” meddai Anna Utuska wedyn.

Cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr

“Mae gwaith ardderchog yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad, ac mae Gwilym yn enghraifft berffaith o rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino yn helpu pobol ifanc ac oedolion i siarad Cymraeg yn hyderus tu allan i’r dosbarth,” meddai Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts.

“Roedd hi’n bleser cyflwyno’r tlws ef cof am Aled iddo.”

Dywed Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ei bod hi “mor braff cael cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr i’r sector dysgu Cymraeg”.

“Cwrddais i â fe gyntaf pan o’n i’n blentyn ar gwrs ail iaith yng Ngwersyll Llangrannog, pan roddodd docyn iaith i fi am ddweud y gair ‘clogwyn’,” meddai.

“Pan gyhoeddwyd mai yn Rhondda Cynon Taf y byddai Eisteddfod 2024, gan Gwilym y derbyniais y siec a’r cerdyn cyntaf.

“Mae e’n driw i bob achos ac yn enillydd cwbl haeddiannol.”