“Gwell hwyr na hwyrach”, medd yr ymgyrchydd gwleidyddol Ffred Ffransis, wrth ymateb i’r newyddion bod Prif Erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol am geisio warant i arestio Prif Weinidog a Gweinidog Amddiffyn Israel ac arweinwyr Hamas.

Mae’r cais, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mai 20), yn gofyn am arestio’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu, arweinydd Hamas Yahya Sinwa, Gweinidog Amddiffyn Israel Yoav Gallant, ac arweinwyr eraill Hamas fel Mohammed Diab Ibrahim al Masri ac Ismail Haniyeh, am am droseddau’n erbyn dynoliaeth.

Daw hyn wrth i’r rhyfel yn Gaza, ddechreuodd ar Hydref 7 y llynedd, barhau.

Mewn datganiad heddiw, amlinellodd y Prif Erlynydd Karim Khan KC y rhesymau pam fod ei swyddfa’n gwneud cais am y gwarantau i arestio.

“Nawr, yn fwy nag erioed, rhaid i ni ddangos ar y cyd fod cyfraith ddyngarol ryngwladol, y llinell sylfaenol ar gyfer ymddygiad dynol yn ystod gwrthdaro, yn berthnasol i bob unigolyn ac yn cymhwyso’n gyfartal ar draws y sefyllfaoedd mae fy swyddfa a’r llys yn mynd i’r afael â nhw,” meddai.

“Dyma sut y byddwn ni’n profi, yn bendant, fod gwerth cyfartal i fywydau pob bod dynol.”

‘Dyw e fyth yn rhy hwyr ar gyfer cyfiawnder’

Yn ôl Ffred Ffransis, dydy hi byth yn rhy hwyr i osod nod ar gyfer cyfiawnder yn y dyfodol, ond mae’n rhy hwyr i achub nifer o unigolion.

“Bydd e’n rhy hwyr i’r bobol sy’n newynu i farwolaeth, ac i’r bobol a phlant yn Gaza fydd yn cael eu lladd heddiw a fory,” meddai wrth golwg360.

“Bydd e’n rhy hwyr iddyn nhw i gyd fel unigolion, ond dyw e byth yn rhy hwyr ar gyfer cyfiawnder, ac ar gyfer gosod y nod ar gyfer y dyfodol.

“Nawr yw’r amser pan fydd rhagrithwyr yn dod i’r amlwg; y rhagrithwyr sydd yn beirniadu Putin a phobol mewn gwledydd eraill am anwybyddu cyfraith ryngwladol, ond sydd eto’n barod i esgusodi eu ffrindiau gwleidyddol eu hunain.

“Mae’n fater difrifol, ac mae’n golygu y bydd y byd mewn dwy ran, ac nid y ddwy ran rydyn ni wedi arfer gyda nhw, ond pobol sy’n cydnabod cyfiawnder rhyngwladol a’r gwledydd fel Tseina, Rwsia a’r Unol Daleithiau sydd ddim yn cydnabod cyfiawnder rhyngwladol ac yn meddwl eu bod nhw’n gallu gwneud unrhyw beth.

“Yn achos yr Unol Daleithiau, mae’n waeth gan fod elfen o ragrith wrth iddyn nhw honni eu bod nhw’n cynnal y gyfraith ryngwladol pan dydyn nhw ddim.

“Felly, o ran dyfodol cyfiawnder yn y byd, dyw e ddim yn rhy hwyr – gwell hwyr na hwyrach.

“Ond ar gyfer y bywydau unigol mae’n rhy hwyr, a bydd y gyflafan fwy neu lai wedi’i gorffen yn Gaza.

“Ond os nad unrhyw beth arall, bydd e’n golygu diwedd y rhagrith.”

Pergygl i wledydd Prydain?

Mae Israel, yr Unol Daleithiau, Rwsia a Tseina ymysg y gwledydd sy’n gwrthod cydnabod y Llys Troseddol Rhyngwladol.

Ond fe wnaeth Palesteina ei gydnabod yn 2015, ac felly mae iddo rym yn y diriogaeth.

Mae Prydain hefyd yn rhan o’r ICC, a phe bai warant yn cael ei gyhoeddi, byddai perygl y gallai Llywodraeth Prydain gael ei chanfod yn euog o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth hefyd.

“Os bydd y barnwyr yn cyhoeddi’r warant, bydd Prydain wedi cynorthwyo Israel trwy werthu arfau iddyn nhw, felly wedi cynorthwyo mewn troseddau yn erbyn dynoliaeth.

“Yn ymarferol, byswn i’n meddwl y byddai rhaid i Brydain naill ai gosod eu hunain gyda’r Unol Daleithiau, Tseina a Rwsia a gwrthod cyfraith ryngwladol a thynnu allan o’r ICC, neu fe fydd rhaid i Brydain gyhoeddi y bydd [Benjamin] Netanyahu yn cael ei arestio petai’n dod i Brydain a’r warant wedi’i chymeradwyo.

“Os bydd Llywodraeth Prydain yn tynnu allan o’r ICC ac yn sefyll gyda’r Unol Daleithiau yn hytrach na chreisis cyfiawnder dynol, mae’n rheswm ychwanegol pam fydd rhaid i Gymru wneud ei phenderfyniad – ydy hi am fod yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol yma, neu sefyll gyda gwledydd y byd sydd yn credu mewn trefn cyfraith ryngwladol?”

Allai Prif Weinidog Israel osgoi gael ei arestio?

Gan nad yw Israel wedi cydnabod llys troseddol yr ICC, gallai Prif Weinidog Israel osgoi gael ei arestio pe bai warant yn cael ei chymeradwyo gan y barnwyr, yn ôl Ffred Ffransis.

“Byddai e’n gallu aros yn Israel a’r gwledydd hynny sydd ddim yn cydnabod yr ICC,” meddai.

“Petai yna hediad uniongyrchol i’r Unol Daleithiau, byddai e’n gallu teithio fel’na.

“P’un a fydd e’n gallu aros yn rhydd yn Israel, wrth gwrs, mae hynny’n dibynnu ar y system gyfreithiol fewnol yn Israel, lle mae ganddo fo broblemau.

“Bydd unhryw benderfyniad gan yr ICC yn cryfhau lleisiau dros gyfiawnder a heddwch yn Israel.”