Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal gwaed, ar ôl i ymchwiliad ddod i’r casgliad y gellid, ac y dylid fod wedi ei hosgoi.

Mae ymchwiliad cyhoeddus Syr Brian Langstaff wedi bod yn edrych ar sut gafodd cleifion waed oedd wedi’i heintio ar y Gwasanaeth Iechyd rhwng y 1970au a dechrau’r 1990au.

Cafodd tua 30,000 o bobol ledled gwledydd Prydain eu heintio â HIV neu Hepatitis C, a rhyw 400 ohonyn nhw yng Nghymru.

Mae 3,000 o bobol wedi marw wedi iddyn nhw gael eu heintio.

Dywed yr ymchwiliad fod y dioddefwyr wedi cael eu siomi “sawl gwaith” gan feddygon, y llywodraeth a chyrff fel y Gwasanaeth Iechyd.

Yr adroddiad

Pobol â hemoffilia a phobol wnaeth dderbyn trallwysiadau gwaed rhwng 1970 a 1991 oedd y ddau brif grŵp gafodd eu heffeithio gan y gwaed oedd wedi’i heintio.

Yn y 1970au, roedd y Deyrnas Unedig yn cael trafferth ateb y galw am driniaethau ceulo’r gwaed, ac felly fe wnaethon nhw fewnforio gwaed o’r Unol Daleithiau.

Ond roedd llawer o’r gwaed hwnnw’n cael ei brynu gan roddwyr risg uchel, fel defnyddwyr cyffuriau a charcharorion.

Roedd Factor VIII – y feddyginiaeth oedd yn cael ei defnyddio i drin hemoffilia – yn cael ei gwneud gan ddefnyddio plasma degau o filoedd o roddwyr. Os oedd gan un o’r rhoddwyr haint, byddai’r swp cyfan wedi’i heintio.

Yn ôl yr adroddiad, doedd diogelwch cleifion ddim wrth wraidd penderfyniadau’n ymwneud â’r mater.

Yn ôl yr adroddiad:

  • Ni chafodd digon ei wneud i stopio mewnforio cynnyrch gwaed o dramor.
  • Cafodd gwaed gan grwpiau risg uchel ei dderbyn yn y Deyrnas Unedig tan 1986.
  • Doedd dim digon o brofi i ostwng y risg o hepatitis o’r 1970au ymlaen.
  • Chafodd cynnyrch gwaed ddim eu trin â gwres er mwyn cael gwared ar HIV nes 1985, er bod y risgiau’n hysbys ers 1982.

Dywed Syr Brian Langstaff fod yna ddiffyg tryloywder gan yr awdurdodau, ac elfennau o “dwyll llwyr”, gan gynnwys drwy ddinistrio dogfennau.

Hanner y gwir gafodd ei ddweud mewn rhai achosion hefyd, meddai, a hynny fel nad oedd pobol yn gwybod am beryglon y triniaethau, argaeledd opsiynau eraill ac a oedden nhw wedi cael eu heintio hyd yn oed.

“Doedd y trychineb ddim yn ddamwain,” meddai.

“Digwyddodd yr heintiadau oherwydd na wnaeth y rhai mewn grym – meddygon, y gwasanaethau gwaed a llywodraethau – roi diogelwch cleifion yn gyntaf.”

Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu dylanwad a chamau’r Athro Arthur Blom, oedd yn arwain Canolfan Hemoffilia Caerdydd.

Yr Athro Blom, fu farw yn 1992, oedd un o’r arweinwyr yn y maes yn y 1970au a’r 1980au, a dywed yr adroddiad fod ei farn “wedi gor-ddylanwadu ar y ffordd wnaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol weld dyfodiad Aids” a’r perygl i bobol â chyflyrau gwaedu.

‘Priodol clywed lleisiau dioddefwyr’

Wrth ymateb, dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, ei bod hi’n briodol bod lleisiau’r goroeswyr a theuluoedd y dioddefwyr yn cael eu clywed.

“Dyma’r sgandal waethaf o ran triniaethau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.

“Er iddo ddigwydd cyn datganoli, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, hoffwn ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y methiant ofnadwy hwn.

“Hoffwn ddiolch i Syr Brian am ei amser a’r agwedd dosturiol a ddangosodd yn ystod yr ymchwiliad.

“Hoffwn hefyd nodi fy edmygedd o’r cryfder a ddangoswyd gan bawb a roddodd dystiolaeth am eu profiadau personol a’u teuluoedd. Bu llawer ohonynt yn ymgyrchu am ddegawdau am ymchwiliad cyhoeddus.

“Mae’n briodol bod eu lleisiau wedi cael eu clywed ac rwy’n gobeithio bod goroeswyr a’u teuluoedd yn teimlo bod yr ymchwiliad wedi ystyried eu tystiolaeth ac wedi rhoi atebion i’w cwestiynau a’u pryderon.

“Rhoddodd Llywodraeth Cymru fynediad at ein cofnodion ar gyfer yr ymchwiliad a darparodd swyddogion a Gweinidogion presennol a blaenorol dystiolaeth ysgrifenedig a llafar yn ôl yr angen.”

Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr adroddiad yn ofalus, meddai, gan ychwanegu eu bod nhw wedi ymrwymo i weithio ar sail pedair gwlad i ymateb i’r argymhellion.

“Ein nod fydd sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i fuddiolwyr a’u teuluoedd yng Nghymru.”

‘Mwy i’w wneud’

Ychwanega Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mai’r trasiedi hwn oedd un o’r “sgandalau mwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.

“Er bod yr ymchwiliad hwn wedi amlygu cyfnod tywyll, mae’n iawn dweud bod mwy i’w wneud i gefnogi a digolledu’r goroeswyr sy’n dioddef gyda’u hiechyd hyd heddiw.”

‘Camwedd erchyll’

Ar X (Twitter gynt), dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod yr adroddiad yn rhoi llais i ddioddefwyr ac yn rhannu’u straeon torcalonnus nhw â’r byd.

“Mae’r camwedd erchyll hwn wedi cymryd gormod o fywydau a difetha llawer mwy, ac am lawer yn rhy hir, mae lleisiau’r rhai gafodd eu heffeithio gan y sgandal wedi cael eu distewi.”