Gallai hyd at 470,000 yn llai o sigaréts gael eu hysmygu bob dydd yng Nghymru erbyn 2040, pe bai cyfreithiau newydd yn cael eu pasio i godi oedran gwerthu tybaco.

Ar hyn o bryd, mae tua 325,000 o bobol yn ysmygu yng Nghymru, sef 13% o’r boblogaeth.

Cafodd y dadansoddiad gan Cancer Research UK ei gyhoeddi i ddangos effaith bosib deddfwriaeth newydd arfaethedig i leihau cyfraddau ysmygu.

Nod y Bil Tybaco a Fêps newydd yw ei gwneud hi’n anghyfreithlon gwerthu tybaco i unrhyw un sydd wedi cael ei eni ar ôl Ionawr 1, 2009.

Byddai hyn yn golygu na fyddai’n gyfreithlon gwerthu sigaréts i blant sy’n cael eu pen-blwydd yn 15 oed eleni.

‘Nawr yw’r amser i wleidyddion weithredu’

Ar hyn o bryd, mae bil yn mynd drwy broses ddeddfwriaethol San Steffan.

Er mwyn dod yn gyfraith yng Nghymru, mae angen i Aelodau’r Senedd graffu ar y Bil a’i gymeradwyo drwy bleidlais yn y Senedd.

Mae Cancer Research UK yn annog gwleidyddion yng Nghymru i gefnogi’r Bil a phleidleisio dros ei weithredu cyn gynted â phosibl.

“Mae’r ddeddfwriaeth hon yn achub bywydau gan y bydd yn helpu i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru rhag y niwed sylweddol a achosir gan dybaco,” meddai Dr Ian Walker, cyfarwyddwr gweithredol polisi Cancer Research UK.

“Trwy bleidleisio dros y ddeddfwriaeth ynghylch oedran gwerthu, bydd gwleidyddion yng Nghymru yn dod â ni gam yn nes at y genhedlaeth ddi-fwg gyntaf erioed.

“Ysmygu sy’n achosi’r nifer mwyaf o achosion o ganser y mae modd eu rhwystro yng Nghymru ac mae ei effaith yn difetha teuluoedd.

“Nawr yw’r amser i wleidyddion weithredu i roi terfyn ar ganserau a achosir gan ysmygu.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n ysmygu yn dechrau pan fyddan nhw yn ifanc, felly gallai codi’r oedran y gellir gwerthu cynhyrchion tybaco i bobol yn gyfreithlon helpu pobol rhag dod yn gaeth iddyn nhw yn y lle cyntaf.”

‘Rwy’n gwybod pa mor farwol y gall ysmygu fod’

Ysmygu sy’n achosi’r nifer fwyaf o achosion o ganser mae modd eu rhwystro yng Nghymru, gyda thua 3,100 o achosion o’r clefyd bob blwyddyn.

Mae Jayne Campbell o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd wedi goroesi canser y geg, yn gobeithio y bydd y Bil yn cael ei basio gan fod ganddi brofiad o effeithiau dinistriol ysmygu.

Cafodd y fam i ddau ddiagnosis o’r clefyd yn dilyn apwyntiad arferol gyda’i deintydd yn 2016.

Gwelodd y deintydd fod newid yn lliw un rhan o dan ei trafod, a chafodd ei chyfeirio at yr ysbyty deintyddol yng Nghaerdydd, lle daeth cadarnhad mai canser y geg oedd y màs.

“Wrth i mi grio, dywedodd fy ymgynghorydd wrthyf fy mod wedi ysmygu fy sigarét olaf,” meddai.

“Roedd o’n iawn.”

Yn ôl Cancer Research UK, gall ysmygu tybaco gynyddu’r risg o ddatblygu canser y geg a chanser oroffaryngol gan oddeutu 25%.

Mae Jayne Campbell, oedd wedi dechrau ysmygu pan oedd yn 16 oed, yn gobeithio y byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn atal cenedlaethau’r dyfodol rhag dechrau’r arfer.

“Dechreuais ysmygu un neu ddwy sigarét y dydd pan oeddwn yn 16 oed, ac yna trodd hynny yn arferiad o ysmygu 20 y dydd,” meddai.

“Rydych yn mynd yn hynod gaeth iddyn nhw.

“Dw i’n dal i grefu am sigarét ambell waith, er na fydda i byth yn cyffwrdd mewn sigarét eto.

“Rwy’n gwybod pa mor farwol y gall ysmygu fod, ac mae’n rhyfeddol meddwl y gallai’r gyfraith newydd hon atal fy wyrion rhag dechrau ysmygu yn y dyfodol.”

Yn achos Jayne Campbell, a oedd yn arfer ysmygu 20 sigarét y dydd am 35 mlynedd, rhoddodd y gorau i ysmygu cyn gynted ag y cafodd ddiagnosis o ganser.

“Cefais sioc enfawr pan gefais y diagnosis, ac roeddwn i’n gwybod fod yn rhaid i mi roi’r gorau i ysmygu ar unwaith.

“Er fy mod yn gwybod nad oedd ysmygu yn dda i mi, doeddwn i byth yn meddwl y gallai canser ddigwydd i mi.”

O fewn pedair wythnos, cafodd Jayne lawdriniaeth i dynnu rhan o’i thafod a rhan o lawr ei cheg.

Yn ffodus, roedd y driniaeth yn llwyddiannus ac fe wellodd hi’n gyflym.

“Rwyf wedi cael profiad o effeithiau dinistriol ysmygu ac rwyf wir yn gobeithio y bydd y gyfraith yn newid fel y gall pobol fyw bywydau hirach ac iachach – dyna mae ein plant a’n hwyrion yn ei haeddu.”