Mae Bil i ddileu elw preifat o ofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal wedi’i gyflwyno heddiw (dydd Llun, Mai 20).

Bydd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sydd wedi’i gyflwyno gerbron y Senedd heddiw, hefyd yn rhoi mwy o lais a rheolaeth i bobol dros eu gofal iechyd drwy sicrhau bod taliadau uniongyrchol ar gael ar gyfer gofal iechyd parhaus.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi ymrwymiadau i ddileu elw preifat o ofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

‘Er budd plant a’u teuluoedd’

Yn nigwyddiad yr elusen Voices from Care Cymru, clywodd Dawn Bowden, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, gan bobol ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ynghylch pam eu bod nhw wedi bod yn ymgyrchu dros roi terfyn ar leoliadau gofal i blant er elw yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau gofal plant mewn modd uchelgeisiol fel eu bod yn gweithredu’n well er budd plant a’u teuluoedd,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn credu ei fod yn iawn gwneud elw o ofalu am blant a phobol ifanc pan fo’u hamgylchiadau yn golygu bod rhaid iddyn nhw fod yng ngofal awdurdodau lleol.

“Bydd y Bil hwn yn dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal ac yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau gwell sy’n diwallu anghenion plant ac yn sicrhau profiadau a chanlyniadau gwell.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod taliadau uniongyrchol ar gael ar gyfer gofal iechyd parhaus fel bod pobol yn gallu penderfynu drostynt eu hunain pwy sy’n rhoi’r gofal sydd ei angen arnyn nhw.”

Mwy o lais a rheolaeth

Bydd taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus yn caniatáu i bobol ag anableddau a’r rhai sydd ag anghenion iechyd hirdymor gael mwy o reolaeth a mwy o lais ynghylch sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu.

Ar hyn o bryd, does gan bobol sy’n derbyn gofal iechyd parhaus yng Nghymru ddim llais ynglŷn â hyn.

Y Gwasanaeth Iechyd sy’n gwneud trefniadau ynghylch eu hanghenion gofal.

Bydd eu galluogi i gael taliadau uniongyrchol yn caniatáu iddyn nhw ddewis sut mae eu hanghenion gofal yn cael eu diwallu.

Mae hyn eisoes yn opsiwn i’r rhai sy’n derbyn gofal cymdeithasol.

Un sydd â phrofiad o fod mewn gofal yw Brendan Roberts, sy’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Voices From Care Cymru.

“Bob tro rydyn ni wedi siarad â phlant a phobol ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal am hyn, maen nhw bob amser yn dweud yn glir nad yw’n iawn fod cwmnïau yn gwneud elw o ganlyniad i’n hangen ni am ofal a chymorth,” meddai.

“Rydyn ni’n credu y dylai’r cyfan o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario gan ein rhieni corfforaethol i ddarparu ein gofal ni gael ei wario ar hynny.

“Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaeth Gweinidogion Cymru addewid i ddileu elw o ofal mewn datganiad ar y cyd rhyngddyn nhw a llysgenhadon ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

“Rydyn ni’n falch o weld heddiw eu bod yn cadw at eu haddewid.”

‘Llais, dewis a rheolaeth yn hanfodol’

“Mae llais, dewis a rheolaeth yn hanfodol i sicrhau hawliau pobl anabl, gan gynnwys pobl â chyflyrau iechyd hirdymor,” meddai Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru.

“Mae’r newidiadau angenrheidiol i ofal iechyd parhaus sy’n adlewyrchu’r rhain i’w croesawu’n fawr.

“Am gyfnod rhy hir, nid yw’r rhai sy’n cael gofal iechyd parhaus wedi gallu penderfynu sut y mae eu gofal yn cael ei ddarparu, a chan bwy.

“Bydd y newid hwn yn caniatáu i bobol anabl gael, a mwynhau, yr un hawliau â’r rhai sy’n cael taliadau uniongyrchol gofal cymdeithasol.”