Mae busnesau yn Nulyn yn gobeithio manteisio ar dwf ym mhoblogrwydd yr iaith Wyddeleg ymhlith siaradwyr newydd.

Mae Cyngor Dinas Dulyn am gydweithio â BÁC le Gaeilge i lansio TurasÓir, sef rhaglen gymorth newydd i helpu busnesau i fanteisio hyd eithaf eu gallu ar y twf hwn.

Fe fu Arglwydd Faer Dulyn, City Kayaking Tours a myfyrwyr o Notre Dame sy’n astudio’r Wyddeleg dramor yn lansio’r rhaglen.

Daw hyn ar ôl i bum miliwn o bobol tu allan i Iwerddon fod yn dysgu’r Wyddeleg drwy Duolingo dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond prin yw’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith a dysgu amdani yn Nulyn ar hyn o bryd, a bwriad y rhaglen yw mynd i’r afael â hynny.

Yn rhan o’r rhaglen, bdd pump o fusnesau bach neu grwpiau cymunedol yn cael eu cefnogi i ddatblygu profiadau twristaidd newydd sbon mae’r iaith Wyddeleg yn ganolog iddyn nhw.

Bydd Cyngor Dinas Dulyn yn rhoi 2,000 Ewro i bum busnes er mwyn datblygu rhaglenni peilot.

“Fel Arglwydd Faer Dulyn, dw i’n falch o ddatgelu rhaglen TurasÓir,” meddai Dáithí de Róiste.

“Mae twristiaeth yn llewyrchus yn Nulyn, ond dim ond crafu’r wyneb wna llawer o’n hymelwyr o ran yr hyn sydd gan ein dinas i’w gynnig, ac ymhen amser rydym yn gobeithio cynnig degau o opsiynau i deithwyr sydd â diddordeb ehangach yn ein hiaith a hanes yr iaith Wyddeleg yn ein dinas.

“Mae’r iaith wedi cael hwb sylweddol yn y brifddinas ers troad y ganrif, ac rydym yn edrych ymlaen at lawer iawn mwy yn dilyn tonnau City Kayaking ac yn ymuno â rhaglen TurasÓir.”

Caiacio drwy’r Wyddeleg

I Cathal Furey, Cyfarwyddwr Masnachol City Kayaking, mae’r Wyddeleg yn arf i’w helpu i dyfu ei fusnes.

“Fe wnaethon ni sylwi, wrth i dwristiaid ddarganfod y gallai rhai o’n tywyswyr siarad Gwyddeleg, eu bod nhw’n chwilfrydig,” meddai.

“Roedd ganddyn nhw awch go iawn i ddysgu mwy am yr iaith, ei hanes a pherthynas gyfredol Dulyn â’r iaith.

“Dyna pam ein bod ni wedi datblygu ‘Taith Caiacio’r Iaith Gudd’, sy’n profi’n boblogaidd iawn ymhlith twristiaid, grwpiau ysgolion a thrigolion Dulyn hefyd.”