Wrth i gerflun iâ sy’n cynrychioli cannoedd ar filoedd o leisiau gael ei osod ar lannau afon Clud yn Glasgow, gyferbyn â’r ganolfan lle mae uwchgynhadledd COP26 yn cael ei chynnal, mae Climate Cymru yn rhybuddio gwleidyddion Cymru bod amser yn brin os ydyn nhw am fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Prin fod gennym ddigon o amser ar ôl i wneud iawn am hyn – ond fel y cerflun, fydd y cyfle hwn ddim ar gael yn hir,” meddai’r mudiad.
Mae’r cerflun yn cynrychioli’r holl leisiau sy’n galw am weithgarwch go iawn gan wleidyddion sydd wedi ymgynnull yn Glasgow i ymrwymo i gyfyngu’r cynnydd yn nhymeredd y ddaear i 1.5 gradd selsiws.
Mae nifer o fudiadau yng Nghymru wedi ychwanegu eu lleisiau at yr ymgyrch i sicrhau bod gwleidyddion yn gweithredu, ac yn eu plith mae’r Climate Coalition a Stop Climate Chaos Cymru.
Arolwg
Yn ôl arolwg gan YouGov ar ran y Climate Coalition fis diwethaf, roedd tri ymhob pedwar o bobol yn credu mai plant heddiw neu genedlaethau’r dyfodol fydd yn talu’r pris am ddiffyg gweithgarwch, ac maen nhw’n ofni’r canlyniadau pe na bai ymdrechion yn parhau i arafu newid hinsawdd.
Dywedodd 47% o bobol mai plant heddiw fyddai’n talu’r pris, gyda 30% yn credu mai cenedlaethau’r dyfodol fydd yn wynebu’r canlyniadau.
Dim ond 9% oedd yn credu mai oedolion heddiw fyddai’n talu’r pris.
Daw’r arolwg ar ddiwedd wythnos gyntaf uwchgynhadledd COP26, lle mae’r trafodaethau sydd ar y gweill yn hollbwysig er mwyn taro bargen ynghylch ymrwymiadau i dorri allyriadau fel bod modd bwrw’r targed o gyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd y ddaear.
Yn ôl ymchwil eleni, gallai prif economïau’r byd golli $4.8tn bob blwyddyn erbyn 2050 pe na baen nhw’n cyflwyno cynlluniau mwy uchelgeisiol i fynd i’r afael â newid hinsawdd – mae hyn ddwywaith y swm sydd wedi’i golli o ganlyniad i Covid-19.
‘Prin iawn fydd maddeuant cenedlaethau’r dyfodol’
“Ar ddiwedd wythnos gyntaf uwch-gynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, rydym wedi gweld camau gwirioneddol gadarnhaol mewn rhai meysydd,” meddai Ben Margolis, cyfarwyddwr y Climate Coalition.
“Ond rhaid cael gweithredu mwy uchelgeisiol a phendant er mwyn rhoi’r byd ar y trywydd iawn a’n galluogi i gyfyngu ar gynhesu byd-eang a diogelu byd natur.
“Os methwn yn hyn o beth, prin iawn fydd maddeuant cenedlaethau’r dyfodol a’r rhai sydd eisoes ar y rheng flaen.
“Prin fod gennym ddigon o amser ar ôl i wneud iawn am hyn – ond fel y cerflun, fydd y cyfle hwn ddim ar gael yn hir.
“Rhaid i’r Deyrnas Unedig barhau â’i diplomyddiaeth er mwyn gwireddu ymrwymiadau mwy i leihau allyriadau llygrol, oherwydd dim ond trwy gael gwledydd i weithio gyda’i gilydd y gallwn lwyddo i gyflawni hyn.
“Mae gennym gyfle o hyd i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol, ac er mwyn gwneud hynny rhaid inni rwystro’r byd rhag cynhesu mwy nag 1.5℃ uwchlaw’r tymheredd normal.”
‘Darfodedig a byrhoedlog’
“Mae’r cerflun rhew siâp calon yn hardd, yn ddarfodedig,” meddai Sam Ward, rheolwr ymgyrchoedd Climate Cymru. “Cyn bo hir, bydd yn toddi.
“Mae ein cyfle ninnau i weithredu er budd y pethau a garwn hefyd yn ddarfodedig a byrhoedlog.
“Dyma ein neges i weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n mynychu COP26: byddwch yn feiddgar, dangoswch arweinyddiaeth, mynnwch weithredu pendant, amserol, ysbrydolwch, ac ysgogwch eraill ar lwyfan y byd.
“Mae yna ymchwydd o gefnogaeth y tu cefn ichi o du’r cyhoedd – maen nhw eisiau gweld newid gwirioneddol.
“O bob cwr o Gymru ac o bob cefndir dan haul, mae miloedd o bobol a channoedd o sefydliadau wedi dweud eu dweud.
“Mae pob un yn dymuno cael yr un peth. Maen nhw eisiau i’n harweinwyr gymryd camau i ddiogelu’r pethau sy’n agos at eu calonnau a sicrhau dyfodol gwell i bob un ohonom.”