Mae Vaughan Gething yn dweud bod mwy o bobol yn dechrau eu busnesau eu hunain ers y pandemig Covid-19.
Daw sylwadau Ysgrifennydd Economi Cymru ar ddechrau’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.
Dywed fod mwy o bobol yn manteisio ar y newidiadau economaidd a ffordd o fyw sydd wedi’u gyrru gan y pandemig, wrth i ffigurau newydd ddangos fod Busnes Cymru, gwasanaeth Llywodraeth Cymru, wedi cynnig cyngor ac arweiniad i 3,020 o bobol sy’n ystyried dechrau busnes a bod 1,556 o fusnesau newydd wedi cael cefnogaeth, gan gynnwys 324 o entrepreneuriaid oedd yn ddi-waith ond a gafodd grant i ddechrau busnes.
Yr wythnos ddiwethaf, daeth cadarnhad fod Busnes Cymru wedi cynnal 25,000 o swyddi ym musnesau bach a chanolig Cymru ers 2016.
Yn ystod yr wythnos hon, fe fydd dros 100 o ddigwyddiadau’n targedu pobol yng Nghymru sydd eisiau sefydlu busnes, ac fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn annog entrepreneuriaid ifainc Cymru i fynd amdani fel rhan o’u hymrwymiad i’r cynllun Gwarant i Bobol Ifanc sy’n rhoi’r opsiwn i bobol ifanc gael mynediad i gymorth i sefydlu busnes.
Mae Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Fusnes Cymru, yn cynnig cefnogaeth i bobol ifanc drwy rwydwaith o 400 o berchnogion busnes sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, ac maen nhw wedi rhannu eu profiadau ar ffurf gweithdai gyda mwy na 310,000 o bobol dan 25 oed ac wedi helpu mwy na 3,000 i fynd i’r afael â’u cynlluniau busnes ers 2016.
Ymhlith y rhai sydd wedi cael cymorth mae:
- Georgina James, 25 oed o Dorfaen, sylfaenydd brand dillad ffitrwydd a dosbarthiadau dawns i rymuso menywod ifainc
- Olaitan Olawande, 21 oed o Fangor, sylfaenydd busnes siarad cyhoeddus sy’n codi hyder pobol ifanc
- Tom Lancaster, 22 oed, ac Emily Stratton, 25 oed o Aberystwyth sydd wedi sefydlu busnes twristiaeth beicio mynydd yng Nghwm Dyfi.
“Er bod y pandemig wedi bod yn heriol iawn i lawer o fusnesau newydd, rydym hefyd wedi gweld iddo fod yn gyfnod o fyfyrio, a gyda newidiadau mewn ffordd o fyw a’r economi rydym bellach yn gweld cynnydd yn nifer y busnesau newydd,” meddai Vaughan Gething.
“Mae rhan o’m gweledigaeth ar gyfer symud economi Cymru yn ei blaen wedi’i hanelu at greu economi lle mae mwy o bobl yn teimlo’n hyderus am gynllunio eu dyfodol yng Nghymru gan gefnogi creu swyddi ac economïau lleol mwy deinamig.
“Fy uchelgais yw gwneud Cymru’n lle lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma. Nid oes rhaid i chi adael i lwyddo, gwnewch eich dyfodol yma yng Nghymru – ac mae ein hentrepreneuriaid yn chwarae rhan allweddol yn y weledigaeth hon.”
Lydia Hitchings a’i gwisgoedd nofio enwog
Un arall sydd wedi cael cymorth trwy Syniadau Mawr Cymru yw Lydia Hitchings, sy’n 24 oed ac yn dod o Gaerdydd.
Dylunydd gwisgoedd nofio yw hi, ac mae ei dyluniadau wedi cael eu gwisgo gan sêr y gyfres deledu realaeth ar Channel 4, Made In Chelsea.
Ar ôl graddio mewn Tesctilau o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, sefydlodd ei chwmni Rosy Cheeks, gan ddylunio bikinis o’i hystafell wely tra ei bod hi hefyd yn gweithio’n rhan amser fel derbynnydd ac yn ymarfer gyda thîm pêl-rwyd Cymru.
Cafodd hi gefnogaeth gan y brifysgol yn ystod ei blwyddyn olaf yn ogystal â Syniadau Mawr Cymru, gan fynd ati i greu cynllun busnes gyda chymorth ymgynghorydd busnes.
“Roedd dechrau busnes yn y cyfnod clo yn bendant yn her ar adegau ond roedd yn haws o wybod fod Syniadau Mawr Cymru ar ben arall y ffôn,” meddai.
“I unrhyw un sydd â syniad busnes, waeth pa mor dda y mae wedi’i ddatblygu, mae’n gymorth amhrisiadwy.
“Gall credu yn eich syniadau deimlo’n frawychus ar adegau, felly gyda Syniadau Mawr Cymru wrth law, gallwch hogi eich sgiliau entrepreneuraidd a chael y cyngor cywir.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag angerdd neu syniad busnes i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru a mynd amdani.”