Mae Coleg Brenhinol y Ffisegwyr wedi croesawu’r ymdrechion i sicrhau bod Cymru’n ddi-fwg erbyn 2030.
Maen nhw’n galw am wneud mwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, sy’n un o amcanion y Llywodraeth hefyd.
Mae’r Llywodraeth hefyd am roi cymorth i fwy o bobol roi’r gorau i ysmygu.
Mae Lynn Neagle, Dirprwy Weinidog Lles y Llywodraeth, yn lansio ymgynghoriad heddiw (dydd Llun, Tachwedd 8) ar strategaeth i reoli tybaco yn y tymor hir, Cymru Ddi-fwg.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Ionawr 31.
Ystyr Cymru ddi-fwg yw y bydd llai na 5% o’r boblogaeth yn ysmygu – 14% yw’r ffigwr ar hyn o bryd.
Yn ôl y Llywodraeth, mae pobol mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o ysmygu, ac mae ymchwil hefyd yn dangos bod y sawl sydd â salwch meddwl ddwywaith yn fwy tebygol o ysmygu na phobol sydd heb salwch meddwl.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno meysydd chwarae, ysgolion ac ysbytai di-fwg ac o Fawrth 1 y flwyddyn nesaf, bydd ystafelloedd mewn gwestai a llety gwely a brecwast hefyd yn dod yn ddi-fwg, ynghyd â llety gwyliau hunangynhaliol megis bythynnod, carafanau a llety AirBnB.
Bydd hyn, yn ôl y Llywodraeth, yn gwarchod y cyhoedd ac yn annog mwy o bobol i roi’r gorau i ysmygu.
Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn i bobol am eu barn ynghylch sut i gyrraedd y nod o Gymru ddi-fwg, ac yn amlinellu’r camau fydd yn cael eu cymryd yn ystod dwy flynedd gynta’r cynllun.
Bydd y strategaeth hefyd yn edrych ar ddulliau o roi cymorth ychwanegol i fwy o bobol fel eu bod nhw’n rhoi’r gorau i ysmygu, ac i bobol sy’n ysmygu ac sydd yn yr ysbyty.
Fe all fod gofyn i sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus fynd yn ddi-fwg ac i gefnogi eu gweithwyr i roi’r gorau i ysmygu.
‘Creu Cymru lle mae ysmygu ymhellach o fod y norm’
“Ein huchelgais yw gwneud Cymru’n ddi-fwg a chefnogi pobol i wneud newidiadau i wella eu hiechyd a’u lles,” meddai Lynn Neagle.
“Mae Cymru wedi arwain y ffordd drwy fod y rhan gyntaf o’r Deyrnas Unedig i wahardd ysmygu mewn rhai llefydd cyhoeddus, gan gynnwys meysydd chwarae cyhoeddus a thir ysgolion lle mae plant a phobol ifanc yn treulio’u hamser, ond rydym hefyd yn gwybod fod angen i ni wneud mwy i gryfhau ein neges ddi-fwg, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth nesaf a newid sut maen nhw a’r gymdeithas ehangach yn gweld ysmygu.
“Ysmygu, o hyd, yw’r prif beth sy’n achosi marwolaeth gynamserol yma yng Nghymru ac mae’n brif gyfrannwr at anghydraddoldebau iechyd.
“Tra ein bod ni wedi gwneud cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf wrth leihau nifer y bobol sy’n ysmygu, rydym am fynd ymhellach a bod yn uchelgeisiol i greu Cymru lle mae ysmygu ymhell o fod y norm.
“Byddwn yn annog pobol i rannu eu safbwyntiau yn yr ymgynghoriad hwn a helpu i siapio trafodaethau yn y dyfodol.”
‘Mae ysmygu yn niweidiol dros ben i’r iechyd’
“Mae ysmygu yn niweidiol dros ben i’r iechyd,” meddai Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru.
“Yn 2018, roedd modd cysylltu oddeutu 5,600 o farwolaethau ymhlith pobol 35 oed a hŷn a 28,000 o dderbyniadau i’r ysbyty ag ysmygu.
“Mae angen i ni gydweithio fel cymdeithas, gan gynnwys y llywodraeth, pobol broffesiynol ym maes iechyd a chymunedau i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i fynd i’r afael ag ysmygu ac i leihau’r salwch mae ysmygu yn ei achosi.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu i gael mynediad i wasanaeth cymorth rhad ac am ddim y Gwasanaeth Iechyd, Helpa Fi i Stopio, am gymorth a chefnogaeth.”
Ymateb ffisegwyr
“Rydym yn croesawu’r strategaeth newydd hon a’i tharged canolog o Gymru ddi-fwg erbyn 2030,” meddai Dr Olwen Williams, dirprwy lywydd Cymdeithas Frenhinol y Ffisegwyr yng Nghymru.
“Bydd bwrw’r targed hwn yn amddiffyn llawer iawn mwy o bobol rhag afiechyd sy’n gysylltiedig â thybaco.
“Ysmygu, o hyd, yw’r prif beth sy’n achosi marwolaeth gynnar yng Nghymru, gan ladd miloedd o bobol bob blwyddyn, ac wrth i ni ddod allan o’r pandemig hwn, mae’n bwysig ein bod ni’n wynebu effaith salwch y mae modd ei osgoi.
“Os ydych chi’n ysmygu, rydych chi mewn perygl llawer uwch o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19 a chyflyrau difrifol eraill.
“Mae angen strategaeth drawslywodraethol Gymreig arnom ar frys er mwyn herio anghydraddoldebau iechyd ehangach.”